Mardin (talaith)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad talaith Mardin yn Nhwrci.

Lleolir talaith Mardin yn ne-ddwyrain Twrci ar y ffin rhwng y gwlad honno a Syria. Ei phrifddinas yw Mardin. Mae'n rhan o ranbarth Güneydoğu Anadolu Bölgesi. Poblogaeth: 705,098 (2009).

Ar un adeg bu Eglwys Uniongred Syria yn gryf yn ardal Mardin, ond dim ond dyrnaid o'r boblogaeth sy'n perthyn i'r eglwys honno erbyn heddiw. Bu Mynachlog Mor Hananyo (Twrceg: Deyrülzafarân Manastırı), ger dinas Mardin, yn sedd Tad (patriarch) Eglwys Syria o 1160 hyd 1932, pan symudwyd y sedd i Damascus yn Syria.


Flag Turkey template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.