Man Ray

Oddi ar Wicipedia
Man Ray
FfugenwRadenski, Emmanuel, Man Rei, Rudnitzky, Emmanuel Edit this on Wikidata
Ganwyd27 Awst 1890 Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
Bu farw18 Tachwedd 1976 Edit this on Wikidata
Paris, 6th arrondissement of Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Urdd Myfyrwyr Celf Efrog Newydd
  • Boys and Girls High School
  • Boys High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, ffotograffydd, sinematograffydd, sgriptiwr, arlunydd, golygydd ffilm, gludweithiwr, hunangofiannydd, actor, cynllunydd, dylunydd gemwaith, gwneuthurwr ffilm, gwneuthurwr printiau, cerflunydd, artist cydosodiad Edit this on Wikidata
Adnabyddus amIngres's Violin, Gift Edit this on Wikidata
Arddullcydosod, celf haniaethol Edit this on Wikidata
MudiadSwrealaeth, Dada Edit this on Wikidata
PriodJuliet Man Ray Edit this on Wikidata
PartnerLee Miller Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.manraytrust.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Arlunydd Americanaidd a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn Ffrainc lle daeth yn ffigwr amlwg ym mudiadau Swrealaeth a Dada oedd Man Ray (Emmanuel Rudzitzky, 27 Awst 189018 Tachwedd 1976).

Ganed Man Ray yn Philadelphia, Pennsylvania ac fe'i magwyd yn ardal Brooklyn, Dinas Efrog Newydd. Mewnfudwyr diweddar o Rwsia, o dras Iddewig, oedd ei rieni, Symudodd i fyw a gweithio yn Ffrainc pan oedd y mudiad Swrealaeth ar ei anterth yn Ewrop. Yn artist a arddelai Fodernaeth, cyfranodd yn sylweddol i waith y Swrealwyr a'r Dadawyr, er na fu erioed yn aelod ffurfiol o'r mudiadau hynny. Adnabyddir Man Ray yn bennaf fel ffotograffydd avant-garde, ond cynhyrchodd weithiau pwysig mewn sawl cyfrwng ac roedd yn ystyried ei hun yn baentiwr yn bennaf.

Yn 1999, cafodd ei enwi gan cylchgrawn ARTnews fel un o'r 25 artistiaid mwyaf dylanwadol yr 20g. Yn ogystal â ffotograffiaeth ac arlunio, arbrofodd â ffilm, cerfluniaeth, collage, a drama arloesol.

Yn ystod ei arosiad hir yn ninas Paris, o 1921 hyd 1940, daeth i adnabod rhai o artistiaid mwyaf y cyfnod, yn cynnwys Salvador Dalí a Marcel Duchamp. Yn ei stiwdio ym Montparnasse, tynnodd bortreadau cofiadwy o lenorion ac artistiad enwog fel James Joyce, Gertrude Stein, Jean Cocteau ac Antonin Artaud.

Man Ray gyda Salvador Dalí ym Mharis yn 1934
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.