Makran

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ardal anial yn ne-orllewin Pacistan a de-ddwyrain Iran yw Makran (Urdu/Perseg: مکران). Er nad yn anialwch go iawn, mae'n un o'r lleoedd poethaf a sychaf ar gyfandir Asia. Mae'n gorwedd yn bennaf yng ngwaelod nhalaith Balochistan ym Mhacistan, gyda'r rhan arall dros y ffin yn Iran, ar lan Môr Arabia a Gwlff Oman.

Mecran

Mae'r arfordir yn cynnwys nifer o faeau ond mae'n dywodlyd a chreigiog ac ychydig iawn o afonydd sydd yno. Mae bryniau Makran yn cael eu cyfrif fel estyniad olaf cadwyn hir yr Hindu Kush.

Mae'r gwastadedd arfordirol cyfyng yn codi'n gyflym i'r bryniau. O'r 1,000 km o arfordir, mae tua 750 km yn gorwedd ym Mhacistan. Ychydig iawn o bobl sy'n byw ym Makran, gyda'r mwyafrif yn byw mewn cyfres o borthladdoedd bychain fel Chah Bahar, Gwatar, Jiwani, a Gwadar, Pasni a Ormara.

Yr ymadrodd Perseg Mahi khoran, "bwytawyr pysgod" (Mahi = pysgod + khor = bwyta) yw tarddiad yr enw Makran, yn ôl pob tebyg. Wrth adrodd hanes Alecsander Fawr (gweler isod), cyfeiria haneswyr Groeg at y ffaith fod pobol y Makran yn byw ar bysgod ac yn eu bwyta'n amrwd.

Mae Makran yn adnabyddus yn bennaf i haneswyr am fod Alecsander Fawr, brenin Macedon a goregynwyr Ymerodraeth Persia, wedi ei groesi ar ddiwedd ei daith trwy Iran ac Affganistan a ddaeth ag ef i ogledd-orllewin is-gyfandir India. Ar ôl anfon rhan o'r fyddin yn ôl trwy Affganistan i warchod y taleithiau a goncweriwyd ganddo yno, dychwelodd Alecsander a rhan arall ei fyddin i'r Dwyrain Canol trwy ddilyn arfordir de Pacistan ac Iran. Ar y daith beryglus ac anodd collwyd nifer o filwyr, yn arbennig wrth groesi anialdiroedd Makran. Ceisiodd y llynges dan arweiniad Perdiccas, a adeiladwyd gan filwyr Alecsander ar Afon Indus, gysgodi'r fyddin, ond yn aflwyddianus. Pan gyrhaeddodd y fyddin Susa, dim ond rhai miloedd o'r milwyr oedd ar ôl.