Mae Pawb yn Cyfrif

Oddi ar Wicipedia
Mae Pawb yn Cyfrif
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurGareth Ffowc Roberts
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi14 Awst 2012 Edit this on Wikidata
PwncAstudiaethau Llenyddol
Argaeleddyn cael ei ystyried i'w adargraffu
ISBN9781848515116
Tudalennau182 Edit this on Wikidata
GenreBarddoniaeth

Cyfrol am fathemateg gan Gareth Ffowc Roberts yw Mae Pawb yn Cyfrif: Stori Ryfeddol y Cymry a'u Rhifau. Gwasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2012. Yn 2013 roedd y gyfrol yn cael ei ystyried i'w hadargraffu.[1]

Yn ôl Alun Morris,

Mae digonedd yn y gyfrol a ddylai fod at ddant pawb hefyd, megis ein ffordd o gyfrif yn ugeiniol yn Gymraeg, dull sydd bron yn unigryw; y rheidrwydd o ddefnyddio’r ffurf ddegol os am wneud ein symiau drwy’r Gymraeg; hanes ein cyd-Gymry yn y Wladfa a oedd yn llawer mwy blaengar na ni wrth ddysgu rhifyddeg drwy’r Gymraeg, trwy waith arloesol R. J. Berwyn; palindromau a phatrymau eraill ymysg rhifau; hanes yr anhygoel Ramanujan o’r India a’i ddarganfyddiadau pellgyrhaeddol mewn mathemateg ac yntau heb addysg brifysgol; a mathemateg y Maiaid. Dyna rai o’r pynciau, a'r cyfan wedi'i gyflwyno yn fywiog a syml.

Dywed hefyd,

Dyma ddarllen hawdd. Mae arddull fyrlymus a bywiog yr awdur yn hwyluso hynny. A gafwyd llyfr ar fathemateg y gellid ei ddarllen ar un eisteddiad erioed o'r blaen? Go brin; dyma lyfr hynod afaelgar.

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod]

Cyfrol ddiddorol am fathemateg i'r lleygwr yw hon, ond mae hi hefyd yn gyfrol am bobl a'u perthynas â rhifau.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.