Llyn Gwyddior

Oddi ar Wicipedia
Llyn Gwyddior
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.654°N 3.576°W Edit this on Wikidata
Map


Llyn yng ngogledd Powys yw Llyn Gwyddior. Saif ym mryniau Maldwyn tua hanner ffordd rhwng Aberangell i'r gorllewin, Llanbrynmair i'r de, a Llangadfan i'r dwyrain. Uchder: tua 450 meter uwch lefel y môr.

Amgylchynnir y llyn gan gorsdir gwlyb a fforestydd y Comisiwn Coedwigaeth. Llifa ffrwd o'r llyn ar ei lan ddwyreiniol i ymuno yn Afon Cannon sydd wedyn yn llifo i Afon Gam yn Nant yr Eira i lifo i lawr i aberu yn Afon Banwy ger Llangadfan, tua 5 milltir o'r llyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Map OS Landranger 125
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.