Llofruddiaeth Ben Bellamy

Oddi ar Wicipedia

Achos a synnodd trigolion Abertawe a Chymru gyfan oedd llofruddiaeth Ben Bellamy ar draeth Bae Abertawe ym Medi 2005. Roedd Ben Bellamy (24 Rhagfyr 198718 Medi 2005) yn dychwelyd adref ar ôl noson allan yn y Mwmbwls pan ymosodwyd arno gan Joel Taylor, Joshua Thomas ac Andrew Rafferty. Canfuwyd corff Bellamy ar draeth Bae Abertawe am tua 09.30 ar 18 Medi, yn yr ardal rhwng Parc Singleton a Phrifysgol Abertawe.

Cefndir yr achos[golygu | golygu cod]

Bachgen 17 oed o ardal Sgeti, Abertawe oedd Bellamy a oedd yn astudio ar gyfer Lefel A yn Ysgol Gyfun yr Olchfa. Roedd yn byw ym Mharc Sgeti gyda'i fam Tracy, a'i frawd 15 oed, Karl.[1]

Ar noson ei farwolaeth, aeth i barti 18 ffrind iddo yng nghlwb nos "Cinderella" yn y Mwmbwls yn groes i ddymuniadau ei dad.[1] Ar ôl i'w ffrindiau fynd adref mewn tacsis, cerddodd adref ar ei ben ei hun am 2 o'r gloch y bore ar hyd y llwybr sy'n cylchu Bae Abertawe. Tra yno, cyfarfu â thri arddegwr - Andrew Rafferty, dyn 18 oed o ardal Mount Pleasant y ddinas, Joshua Thomas, 16 oed a Joel Taylor, 17 oed. Prynodd Bellamy fwyd iddynt o garej 24 awr cyfagos yn Blackpill, a oedd yn cynnwys Pot Noodles a chreision. Tra yno hefyd, siaradodd Bellamy ar ei ffôn symudol gyda merch roedd yn adnabod.

Fodd bynnag, am ryw reswm, newidiodd yr awyrgylch rhwng y pedwar ohonynt ac ymsodwyd ar Bellamy. Yn ôl yr erlyniad, un rheswm posib dros yr ymosodiad oedd fod y bechgyn yn gwybod fod gan Bellamy ffôn symudol ffasiynol a cherdyd debit.[1] Cafodd ei orfodi i ddweud ei rif PIN wrthynt ac yna aeth Rafferty i beiriant twll yn y wal cyfagos er mwyn tynnu arian allan. Ar ôl i Rafferty adael er mwyn mwyn i hôl arian, parhaodd Thomas a Taylor i ymosod ar Bellamy. Cafodd ei daro, ei droedio a'i gicio nes nad oedd modd ei adnabod oherwydd natur ei anafiadau.[1] Dywedwyd iddo ddioddef ymosodiad hir a chiaidd a phan ganguwyd ei gorff roedd ôl esgidiau ymarfer Thomas ar wddf ac ysgwydd Bellamy. Yna, aethpwyd a Bellamy i'r traeth, lle cafodd ei ddadwisgo, a'i lusgo i mewn i'r môr lle foddodd ef. Credir iddo gael ei ddadwisgo er mwyn rhoi'r argraff ei fod wedi penderfynu mynd i nofio yn oriau mân y bore.[2]

Yr achos llys[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr achos llys, dywedwyd fod Joshua Thomas wedi bod yn ymffrostio wrth ffrindiau ei fod wedi ymosod ar Bellamy.[3] Dywedwyd hefyd fod Taylor wedi defnyddio ffôn Bellamy i ffonio'i gariad, a hynny ar ôl i gorff Bellamy gael ei lusgo i mewn i'r môr.

Gerbron Llys y Goron Abertawe, cafwyd Thomas a Taylor yn euog o lofruddio Bellamy a chawsant eu dedfrydu i o leiaf 18 a 22 mlynedd yn y carchar. Nid oedd modd rhoi dedfryd cyffredin o oes i'r ddau ohonynt am eu bod o dan 18 oed pan gyflawnwyd y drosedd.[4] Yn wreiddiol, cafwyd Rafferty yn euog o ddynladdiad a dywedwyd y byddai'n rhaid iddo dreulio o leiaf pum mlynedd yn y carachar.[5] Fodd bynnag, yn dilyn apêl, cafodd y ddedfryd hwn ei ddileu.[6]

Yn ogystal, carcharwyd Dee Langley, 23, a oedd wedi cael gwared ar dystiolaeth o'r achos am ddwy flynedd a hanner. Roedd hi'n gefnither i Joel Taylor, a chyffesodd i geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder trwy gael gwared o ffôn symudol a chadwyn wddf arian Bellamy, a chrys-T gwaedlyd a wisgwyd gan Joshua Thomas.[5]

Rhyddhau[golygu | golygu cod]

Ar 2 Medi 2010 rhyddahawyd Rafferty wedi iddo dreulio tair blynedd a hanner yn y carchar.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwefan Wales Online, 09-03-2006. Adalwyd ar 05-09-2010
  2. Battered corpse of model pupil discovered on beach Times Online. 21-09-2005. Adalwyd ar 05-09-2010
  3. Teen's 'boast about Ben killing' Gwefan BBC News, 09-03-2006. Adalwyd ar 05-09-2010
  4. Beach teenagers get 40 years for pupil's murder Gwefan Telegraph Online". 17-06-2006. Adalwyd ar 05-09-2010
  5. 5.0 5.1 Ben's murderers jailed for life BBC News. 16-06-2006. Adalwyd ar 05-09-2010
  6. 6.0 6.1 Gwefan This is South Wales. 02-09-2010. Adalwyd ar 05-9-2010