Llinynnau

Oddi ar Wicipedia
Llinynnau
AwdurAled Lewis Evans
CyhoeddwrCyhoeddiadau Barddas
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781906396909
GenreBarddoniaeth

Cyfrol gan Aled Lewis Evans yw Llinynnau a gyhoeddwyd yn 2016 gan Gyhoeddiadau Barddas. Man cyhoeddi: Aberystwyth, Cymru.[1]

Dyma gyfrol ddiweddaraf bardd y ffin sy'n myfyrio ar linynnau perthyn a pherthynas, llinynnau hanfodol a bregus, llinynnau sy'n cynnal ac yn carcharu.

Awdur o Wrecsam yw Aled Lewis Evans. Cyhoeddodd doreth o lyfrau dros y blynyddoedd i blant ac oedolion, yn rhyddiaith a barddoniaeth. Amheus o Angylion oedd y gyfrol ddiwethaf o farddoniaeth iddo ei chyhoeddi i Barddas, a hynny yn 2011. Mae Aled yn Diwtor Cymraeg i Oedolion wrth ei waith bob dydd.

Rhan o adolygiad Lyn Ebenezer[golygu | golygu cod]

Dyma gyfrol o gerddi rhydd sydd â'u llinellau a'u rhythmau'n disgyn i'w lle yn ddi-feth ac yn dirwyn yn ddi-dor. Ac mae arwyddocâd pellach i'r teitl, fel y nodir ar gefn y gyfrol, sef y llinynnau tyn sy'n cysylltu pawb ohonom. Nodir ymhellach mor fregus y gall y llinynnau hyn fod, o ran teulu, bro, iaith a ffydd, ynghyd â'r modd y gall llinynnau ein cynnal yn ogystal â'n carcharu.

Ceir yma tua 60 o gerddi sy'n amrywio o ran eu themâu – pobl, mannau, profiadau, digwyddiadau.

Fel y nodir eto yn y broliant, clymau perthyn sy'n cysylltu'r llinynnau sy'n deitl i'r casgliad. Ac mae'r llun ar y clawr gan Luned Aaron yn cyfleu hynny. Llun o blentyn ac oedolyn law yn llaw, llun niwlog, atgofus o'r ddau yn crwydro'r hyn a all fod yn gae neu'n draeth dan awyr las.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017