Llancaiach Fawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llancaiach Fawr
Llancaiach Fawr
Llancaiach Fawr
Gwybodaeth gyffredinol
Math Maenor Tuduraidd
Arddull bensaernïol Ammddiffynol; carreg
Lleoliad Nelson, Caerffili
Tref neu ddinas Pontypridd
Gwlad Caerffili (sir)
Cynllunio ac adeiladu
Perchennog Dafydd ap Richard
Website
http://your.caerphilly.gov.uk/llancaiachfawr

Maenor Tuduraidd yw Llancaiach Fawr a leolir ger pentref Nelson ym mwrdeistref sirol Caerffili, De Cymru. Saif ychydig i'r gogledd o hen safle Glofa Llancaiach. Mae bellach yn amgueddfa byw. Adeiladwyd y neuadd yn 1540 ar gyfer Dafydd ap Richard.[1][2]

Mae'r faenor bron yn union fel ag yr oedd yn 1645 yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Yn y flwyddyn honno fe ymwelodd y Brenin Siarl I â'r tŷ ar y 5ed Awst i geisio perswadio'r perchennog, y Cyrnol Edward Pritchard, i ddal i fod yn deyrngar i'r brenin ar adeg pan roedd cefnogaeth i'r frenhiniaeth yn gwanhau. Er ei ymweliad, yn fuan wedyn daeth y teulu Pritchard ynghyd â boneddigion eraill De Cymru yn gefnogwyr i'r llywodraeth ac yn nes ymlaen fe amddiffynodd Pritchard Gastell Caerdydd rhag y brenhinwyr.[2]

Cyfeiriadau [golygu]

Cyfesurynnau: 51°39′41″N 3°16′58″W / 51.6613°N 3.2829°W / 51.6613; -3.2829

CymruCaerffili.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato