Liwcemia myeloid aciwt

Oddi ar Wicipedia
Liwcemia myeloid aciwt
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathacute leukemia, myeloid leukemia, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Lewcemia myeloid aciwt (AML) yw math o gancr ar y llinell fyeloid yn y celloedd gwaed, ac yn nodweddiadol, achosa twf cyflym mewn celloedd anarferol sy'n cronni yn y mêr esgyrn a'r gwaed, ymyrra hwy a'r celloedd gwaed arferol. Gall symptomau gynnwys blinder, diffyg anadl, gwaedu hawdd a chleisio, yn ogystal â risg uwch o ddal heintiau eraill.[1] Yn achlysurol y mae'r cyflwr yn lledaenu i'r ymennydd, y croen, neu gymiau. Fel lewcemia aciwt, mae AML yn datblygu'n gyflym ac yn gyflwr angheuol os na chaiff ei drin mewn cyfnod o wythnosau neu fisoedd.

Mae'r ffactorau risg yn cynnwys ysmygu, rhaglen cemotherapi neu therapi ymbelydredd blaenorol, syndrom myelodysplastig, a datguddiad i'r cemegyn bensen. Mae mecanwaith sylfaenol yr afiechyd yn cynnwys disodli mêr esgyrn arferol gyda chelloedd lewcemia, sy'n arwain at ostyngiad mewn celloedd gwaed coch, platennau, a chelloedd gwaed gwyn arferol. Fel arfer, mae diagnosis yn seiliedig ar batrymau'r mêr esgyrn a phrofion gwaed penodol. Gall AML ymddangos mewn amrywiaeth o ffyrdd a cheir nifer o is-deipiau ynghlwm a'r afiechyd; ceir triniaethau a chanlyniadau'n amrywio felly.

Fel rheol, caiff AML ei drin yn gyntaf â rhaglen cemotherapi er mwyn arafu'r cyflwr. Yn ddiweddarach, y mae llawer o ddioddefwyr yn parhau i dderbyn cemotherapi, therapi ymbelydredd, neu drawsblaniad bôn-gelloedd. Y newidiadau genetig penodol o fewn y celloedd cancr sy'n penderfynu i raddau ar y cwrs therapi, yn ogystal â chyfnod byw disgwyliedig yr unigolyn. Mewn rhai achosion defnyddir arsenig triocsid fel triniaeth, a hynny lle mae'r cyflwr wedi ailymddangos a'r rhaglenni therapi arferol wedi eu gweithredu.

Effeithiodd AML ar tua miliwn o bobl yn fyd-eang yn 2015, gan arwain at 147,000 o farwolaethau. Fel arfer, effeithia ar oedolion hŷn. Y mae dynion yn fwy tebygol na menywod o ddatblygu'r cyflwr. Gellir gwella AML mewn 35% o achosion sydd o dan 60 oed a 10% o ddioddefwyr dros 60 mlwydd oed. I'r rheini sy'n hŷn ac yn methu ymdopi â rhaglen cemotherapi dwys, ceir cyfnod byw disgwyliedig o 5-10 mis.[2] Achosa oddeutu 1.8% o farwolaethau cancr yn yr Unol Daleithiau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Adult Acute Myeloid Leukemia Treatment". National Cancer Institute (yn Saesneg). 6 March 2017. Cyrchwyd 19 December 2017.
  2. Döhner, H; Weisdorf, DJ; Bloomfield, CD (17 September 2015). "Acute Myeloid Leukemia.". The New England Journal of Medicine 373 (12): 1136–52. doi:10.1056/NEJMra1406184. PMID 26376137.