Liam Ó Flaitheartaigh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Liam Ó Flaitheartaigh

Llenor Gwyddelig, yn ysgrifennu mewn Saesneg a Gwyddeleg, oedd Liam Ó Flaitheartaigh neu Liam O'Flaherty (28 Awst, 1896 - 7 Medi, 1984). Ystyrir ef yn un o nofelwyr ac awdur storïau byrion pwysicaf yr Adfywiad Gwyddelig.

Ganed ef ym mhentref Gort na gCapall ar ynys Inis Mór yn Ynysoedd Arann. Fel y rhan fwyaf o boblogaeth yr ynys, roedd y teulu yn Wyddeleg ei iaith, ond nid oedd ei deulu yn gefnogol i'r iaith. Yn 1908 ymadawodd i fynd i nifer o golegau, yn cynnwys Prifysgol Dulyn. Ymddengys ei fod wedi bwriadu mynd yn offeiriad, ond yn 1917 ymunodd a'r Fyddin Brydeinig a bu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wedi'r rhyfel, symudodd i'r Unol Daleithiau, lle bu'n byw yn Hollywood am gyfnod. Roedd y cyfarwyddwr ffilmiau John Ford yn gefnder iddo, ac yn ddiweddarach gwnaeth ffilm o nofel Ó Flaitheartaigh, The Informer.

Cyhoeddodd Ó Flaitheartaigh ei nofel gyntaf, Thy Neighbour's Wife, yn 1924. Ystyrir Dúil, a gyhoeddodd tua diwedd ei oes, yn un o lyfrau gorau yr iaith Wyddeleg yn yr 20fed ganrif.