Li Bai

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Li Bai

Bardd o China oedd Li Bai neu Li Po (701 - 762). Ystyrir ef gan lawer o feirniaid yn un o ddau brif fardd China, gyda Du Fu. Cadwyd tua 1,100 o'i gerddi.

Cyfeithiwyd ei gerddi i iaith orllewinol am y tro cyntaf yn 1862 pan gyhoeddodd y Marquis d'Hervey de Saint-Denys ei Poésies de l'Époque des Thang. Nodweddir ei farddoniaeth gan ddelweddau o grefydd Taoaeth.

Yn ôl nifer o haneswyr, roedd Li Bai o gefndir Twrcig, o un o lwythau y Xiongnu. Efallai iddo gael ei eni yn Suyab yng Nghanolbarth Asia. Roedd yn bur gyfoethog, a threuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn teithio, gan farddoni ac yfed. Dywedir iddo foddi yn Afon Yangtze, wedi disgyn o'i gwch tra'n ceisio cofleidio adlewyrchiad y lleuad yn y dŵr pan oedd yn feddw.