Gustav Mahler

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gustav Mahler yn 1909

Cyfansoddwr o Awstria oedd Gustav Mahler (7 Gorffennaf, 1860 - 18 Mai, 1911). Yr oedd yn fwyaf enwog yn ystod ei fywyd fel arweinydd opera a cherddorfeydd, ond ers ei farw daethpwyd i'w gydnabod fel un o'r cyfansoddwyr ôl-ramantaidd pwysicaf. Un o'i weithiau mwyaf poblogaidd yw ei 3ydd symffoni, Yr Atgyfodiad.

Treuliodd y flwyddyn olaf o'i oes yn gweithio yn yr Unol Daleithiau fel cyfarwyddwr cerddorol cerddorfa Philharmonig Efrog Newydd (1910-11). Ond syrthiodd yn sâl yn 1911 a bu farw yn Efrog Newydd.

Baner AwstriaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Awstriad neu Awstries. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Music template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.