Leona Lewis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Leona Louise Lewis
Leonna Lewis yn perfformio yn 2009
Gwybodaeth gefndirol
Enw genedigol Leona Louise Lewis
Ganwyd (1985-03-04)

Mawrth 4, 1985 (29 oed)

Man geni Islington, Llundain
Galwedigaeth(au) Cantores,
Label(i) recordio Syco, Sony Music, J Records
Gwefan [1]

Mae Leona Louise Lewis (ganwyd 3 Ebrill 1985 yn Llundain, y Deyrnas Unedig) yn gantores bop/R&B ac yn gyfansoddwraig. Leona Lewis enillodd y drydedd gyfres o'r sioe dalentau ar deledu Prydeinig The X Factor yn 2006. Torrodd ei sengl gyntaf yn y DU, "A Moment Like This" record y byd ar ôl 50,000 copi o'r gân gael eu lawrlwytho o fewn hanner awr o gael ei rhyddhau.

Ei hail sengl, "Bleeding Love", oedd y sengl a werthodd fwyaf o gopïau yn 2007 ym Mhrydain. Aeth i rif un mewn dros 30 o siartiau rhyngwladol gan gynnwys Canada, UDA, Mecsico, Awstralia,Seland Newydd, Iwerddon, Ffrainc a'r Almaen.

Rhyddhawyd ei halbwm gyntaf, Spirit, ledled Ewrop a daeth yr albwm i fod yr albwm a werthodd gyflymaf a fwyaf yn 2007.[1] Rhyddhawyd fersiwn gwahanol o Spirit yng Ngogledd America yn 2008, gan gyrraedd rhif un ar siart albwm y Billboard 200.[2] Lewis yw'r artist unigol Prydeinig cyntaf i gyrraedd y brig gydag albwm cyntaf. Hyd yn hyn, mae'r albwm wedi gwerthu 7 miliwn o gopïau yn fyd-eang ac wedi derbyn ardystiad platinwm 9× yn y Deyrnas Unedig.

Ym mis Tachwedd 2008, torrodd Lewis record yn y DU am y gân lawr-lwythiad yn unig i werthu gyflymaf yn y DU. Gwerthodd ei fersiwn hi o "Run" gan Snow Patrol 69,244 o gopïau mewn deuddydd yn unig.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "High Spirits". Chart-Track. 2007-11-16. Adalwyd 2008-07-24.
  2. Hasty, K (16 Ebrill 2008). "Leona Lewis Makes Big Splash Atop Billboard 200". Billboard. Adalwyd 16-04-2008.
  3. Jamieson, A (4 Rhagfyr 2008). "Leona Lewis single becomes fastest-selling digital release". The Daily Telegraph. Adalwyd 12-02-2009.