Kathryn Bigelow
Oddi ar Wicipedia
| Kathryn Bigelow | |
|---|---|
| Ganwyd | 27 Tachwedd, 1951 San Carlos, Califfornia, UDA |
| Enwau eraill | Kathryn Ann Bigelow |
| Yn enwog am | Near Dark, Break, The Hurt Locker |
| Galwedigaeth | Cyfarwyddwr ffilm |
Cyfarwyddwr ffilm Americanaidd ydy Kathryn Ann Bigelow (ganed 27 Tachwedd, 1951). Ei ffilmiau enwocaf yw'r ffilm arswyd Near Dark (1987), Point Break (1991), a'r ffilm The Hurt Locker (2008) a enillodd chwech o Wobrau'r Academi. Gyda The Hurt Locker Bigelow oedd y ddynes gyntaf i ennill gwobr Cymdeithas Cyfarwyddwyr America am Lwyddiant Cyfarwyddo Eithriadol mewn Ffilm, Gwobr BAFTA am y Cyfarwyddwr Gorau yn 2010 a Gwobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau.