Kaiser Chiefs

Oddi ar Wicipedia
Kaiser Chiefs
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Label recordioB-Unique Records, Polydor Records, Universal Music Group, Fiction Records, Drowned in Sound, Liberation Music, Caroline International, ATO Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig2000 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2000 Edit this on Wikidata
Genrepync-roc, roc indie, cerddoriaeth roc, pop pŵer, Britpop Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRicky Wilson, Andrew White, Nick Hodgson Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.kaiserchiefs.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Kaiser Chiefs yn perfformio mewn cyngerdd

Mae'r Kaiser Chiefs yn fand roc annibynnol o Leeds yn Lloegr. Ffurfiwyd y band ym 1997. Aelodau'r band yw'r prif leisydd Ricky Wilson, y gitarydd Andrew 'Whitey' White, Simon Rix ar y gitâr bâs, Nick 'Peanut' Baines ar yr allweddellau a'r drymiwr Nick Hodgson. Cafodd y band ei enwi ar ôl clwb pêl-droed Kaizer Chiefs o Dde Affrica, sef tîm a chwaraeodd Lucas Radebe, cyn-ammddiffynwr Leeds United drosto.

Rhyddhawyd albwm cyntaf y grŵp, Employment, yn 2005. Cafodd ei ysbrydoli yn bennaf gan gerddoriaeth 'Ton Newydd' a phync roc ar ddiwedd y 1970au, a chafodd yr albwm lwyddiant ryngwladol gyda gwerthiant o dros dri miliwn. Yn 2005, cyrhaeddodd yr albwm y rhestr fer ar gyfer Gwobr Mercury. Ar ail albwm y band, Yours Truly, Angry Mob, roedd y gân "Ruby", a gyrhaeddodd rif un yn siart senglau y Deyrnas Unedig.

Hanes y Band[golygu | golygu cod]

Ffurfio'r Band a'r Blynyddoedd Cynnar (1996 - 2002)[golygu | golygu cod]

Pan oeddent tua unarddeg oed, cyfarfu Nick Hodgson, Nick Baines a Simon Rix yn yr un dosbarth yn Ysgol St. Mary's, Menston ar gyrion dinas Leeds. Ar ôl iddynt adael ysgol, aeth Rix a Baines i brifysgolion ym 1996 tra arhosodd Hodgson yn ardal Leeds, lle cyfarfu â Andrew White a Ricky Wilson. Ffurfiodd Hodgson, White a Wilson fand o'r enw Runston Parva a oedd yn gamsillafiad bwriadol o bentref bychan yn Swydd Efrog o'r enw Ruston Parva. Pan fethodd Runston Parva gael cytundeb recordiau, ail-ffurfiwyd y grŵp o dan yr enw Parva pan ddychwelodd Rix a Baines o'r brifysgol. Llwyddodd y band tu hwnt i ffiniau dinas Leeds, a chawsant gytundeb recordiau yn 2001. Fodd bynnag, caeodd y cwmni recordiau yn fuan ar ôl hyn gan adael y band heb gytundeb a heb unrhyw gyfeiriad pendant. Penderfynodd y band y byddent yn anelu at sicrhau cytundeb recordiau hirach a dechreuasant o'r dechrau unwaith eto, gyda chaneuon newydd ac enw newydd: Kaiser Chiefs.

Employment (2004–2005)[golygu | golygu cod]

Clawr eu halbwm "Employment"

Rhyddhawyd albwm cyntaf y band, Employment ym Mawrth 2005. Cafodd ymateb da wrth y beirniaid cerddorol a ddisgrifiodd y gwaith fel "thrilling from beginning to end" a "quintessentially British, without pretension and most importantly, a whole lot of fun".[7] Cyrhaeddodd rif dau yn y siart albymau Prydeinig ac enillodd bump albwm platinwm am werthiant. Yn 2005, enwebwyd yr albwm am Wobr Mercury sef gwobr gerddorol a roddir yn flynyddol i'r albwm gorau o Brydain neu Iwerddon yn y flwyddyn flaenorol.

Y sengl gyntaf i gael ei rhyddhau o'r albwm oedd "Oh My God" yn 2004, a chyrhaeddodd rif chwech yn y siart senglau Brydeinig pan gafodd ei ail-rhyddhau yn Chwefror 2005. Yn 2007, cafodd y gân ei hail-recordio gan Mark Ronson a Lily Allen ar gyfer albwm Ronson Version. Dilynwyd y gân hon gan "I Predict a Riot". Yn 2007, cyrhaeddodd y gân hon rif trideg chwech yn rhestr NME o Anthemau Indie Gorau Erioed. Ar ddiwedd 2005, cyrhaeddodd y senglau "Everyday I Love You Less and Less" a "Modern Way" yr ugain uchaf yn y Siart Brydeinig. Agorodd y Kaiser Chiefs y gyngerdd Live Eight yn Philadelphia yn 2005, lle perfformiodd y band nifer o'u caneuon.

Yours Truly, Angry Mob (2007)[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd ail albwm y Kaiser Chiefs, Yours Truly, Angry Mob yn Chwefror 2007. Recordiodd y grŵp yr albwm trwy gydol mis Medi ac Hydref 2006 yn Stiwdio Hook End yn Swydd Rydychen, Lloegr. Cafodd y grŵp eu hysbrydoli gan Led Zeppelin a cherddoriaeth roc Americanaidd, ac roeddent wedi recordio dros ddau-ddeg-dau cân.

Yn wahanol i 'Employment', derbyniodd yr albwm feirniadaethau amrywiol wrth y beirniaid a ddisgrifiodd yr albwm fel "an album full of jukebox hits" a "predictable".[12] Cyrhaeddodd Yours Truly, Angry Mob rif un yn yr siart albwm Prydeinig a rhif pedwar-deg-pump ar siart albwm y Billboard 200.[13]

"Ruby", sef prif sengl yr albwm oedd sengl cyntaf y Kaiser Chiefs i gyrraedd rhif un yn y siart senglau Prydeinig. Yr ail sengl o'r albwm i gael ei rhyddhau oedd "Everything Is Average Nowadays" a chyrhaeddodd rif undeg naw yn y Deyrnas Unedig. Cafodd y drydedd sengl o'r albwm ei disgrifio gan The Sun fel cân "clever, accessible pop" a chyrhaeddodd rif dauddeg dau yn y Deyrnas Unedig. Rhyddhawyd pedwaredd sengl y band "Love's Not a Competition (But I'm Winning)", ar Dachwedd y 12fed fel fersiwn sengl 7" i gasglwyr ar eu gwefan. Cyrhaeddodd rif cant a deuddeg yn y Deyrnas Unedig, safle siomedig iawn yn y siart.

Off With Their Heads (2007 - presennol)[golygu | golygu cod]

Yn ddiweddar canslodd y Kaiser Chiefs y rhan fwyaf o'u taith yr Hydref o amgylch yr Unol Daleithiau gan ddweud eu bod yn rhy awyddus i ddechrau recordio eu trydedd albwm llawn: "We are just really desperate to write some new stuff," dywedodd y drymiwr Nick Hodgson wrth Billboard.com. Parhaodd gan ddweud "We don't know exactly what we're going to put out, but it will be next year [...] We're very keen on breaking the cycle of what normal bands do, which is album every two years and tour for a year-and-a-half and take six months to write... Not only does it get predictable, it gets boring. A lot of our contemporaries do the same thing." Yn ystod eu taith o amgylch y Deyrnas Unedig yn Nhachwedd a Rhagfyr 2007, perfformiodd y band tair cân newydd a fydd o bosib ar eu halbwm newydd. Roedd rhain yn cynnwys 'Never Miss A Beat' a 'You Want History'. Yn Ebrill 2008, cadarnhaodd y band y byddai Mark Ronson ynghyd ag Eliot James yn cynhyrchu eu trydydd albwm.

Bwriada'r Kaiser Chiefs fynd i stiwdio yn Leeds, Lloegr cyn diwedd 2007 er mwyn gwneud peth paratoi cynnar. Yr unig ddyddiad ar daith y grŵp o amgylch yr Unol Daleithiau oedd yn Theatr Beacon, Efrog Newydd ar y 29ain o Fedi. Perfformiodd y band yno fel a gynlluniwyd.

Aelodau grŵp y Kaiser Chiefs

Ar y 24ain o Fai 2008, perfformiodd y Kaisers mewn cyngerdd dod adref yn stadium Leeds Unedig yn Elland Road. Gan ddilyn olion traed cewri cerddorol megis Queen, cafodd y band eu cefnogi gan The Enemy, Kate Nash, Young Knives a Friendly Fires.

Ar y 1af o Fehefin 2008, cefnogodd y band mewn cyngerdd gan Syr Paul McCartney yn Anfield. Dyma oedd cyngerdd olaf McCartney fel rhan o ddathliadau Lerpwl fel Prif Ddinas Ddiwylliannol Ewropeaidd y flwyddyn. Hysbysebwyd y gyngerdd fel y gyngerdd olaf i'w pherfformio yn Anfield, cyn i glwb pêl-droed Lerpwl symud i'w stadiwm newydd yn Stanley Park.

Yn ystod eu taith Haf, cyflwynodd y Kaiser Chiefs bedair cân newydd o'u halbwm newydd: "Never Miss A Beat", "You Want History", "Half The Truth" a "Can't Say What I Mean". Disgwylir y bydd eu halbwm newydd yn cael ei ryddhau tua mis Hydref 2008, yr un amser ag mae Bloc Party, Oasis a Keane yn bwriadu rhyddhau eu halbymau hwy.

Ar y 4ydd o Awst 2008, cadarnhaodd y band enw eu trydedd albwm sef 'Off With Their Heads', a fydd yn cael ei ryddhau ar y 13eg o Hydref 2008. Cadarnhawyd hefyd mai y sengl gyntaf fyddai "Never Miss a Beat". Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau ar y 6ed o Hydref 2008. Bydd Nick 'Peanut' Baines a Nick Hodgson hefyd yn ymddangos mewn ffilm ddogfen Tattoos: A Scarred History. Disgwylir i'r ffil gael ei rhyddhau yn 2009.

Disgwylir y bydd y Kaiser Chiefs yn teithio yn Hydref gyda Late of the Pier a The Hair. Bydd y daith yn dechrau yn Academi Leeds, lleoliad perfformio newydd, a'r Kaiser Chiefs fydd y band cyntaf i berfformio yno. Mae dyddiadau eraill y daith yn cynnwys Academi Manceinion, Southampton Guildhall, Reading Rivermead, Glasgow Barrowlands, Leicester De Montford a Forum Llundain.

Albymau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]