Juan de Torquemada

Oddi ar Wicipedia
Juan de Torquemada
Ganwyd1388 Edit this on Wikidata
Valladolid Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1468 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCoron Castilia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Paris Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddcardinal, camerlengo, Cardinal-esgob Palestrina, Bishop of Ourense, gweinyddwr apostolaidd, bishop of Cadiz, Bishop of Ourense, Cardinal Bishop of Sabina (Vescovio), cardinal-offeiriad, cardinal-offeiriad, abad Edit this on Wikidata
PerthnasauTomás de Torquemada Edit this on Wikidata

Cardinal a chlerigwr blaenllaw o Sbaenwr yn y bymthegfed ganrif oedd Juan de Torquemada (138826 Medi 1468).[1] Fe anwyd ac addysgwyd yn Valladolid. Ei nai oedd yr Arch-chwilyswr Tomás de Torquemada.[2]

Ymunodd ag Urdd y Dominiciaid yn ifanc, gan ragori mewn dysg a duwiolfrydedd. Ym 1415, hebryngodd bennaeth ei urdd i Gyngor Konstanz. Oddi yno aeth i Baris i astudio, gan ennill doethuriaeth yno ym 1423. Bu'n dysgu am beth amser ym Mharis cyn cael ei benodi'n brior yŷ cynta'r Brodyr Dominicaidd yn Valladolid, ac wedyn yn Toledo. Ym 1431 fe alwyd i Rufain gan Bab Eugenius IV a'i wneud yn magister sancti palatii. Bu'n flaenllaw yng Nghyngor Basel, a daeth yn gardinal yn 1439. Bu farw yn Rhufain ym 1468.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • Meditationes, seu Contemplationes devotissimae (Roma, 1467)[2]
  • In Gratiani Decretum commentarii (4 cyfrol, Fenis, 1578)
  • Expositio brevis et utilis super toto psalterio (Mainz, 1474)
  • Quaestiones spirituales super evangelia totius anni (Brixen, 1498)
  • Summa ecclesiastica (Salamanca, 1550)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kenneth Meyer Setton (1976). The Papacy and the Levant, 1204-1571 (yn Saesneg). American Philosophical Society. t. 282. ISBN 978-0-87169-127-9.
  2. 2.0 2.1 "Meditations, or the Contemplations of the Most Devout". World Digital Library. 1479. Cyrchwyd 2013-09-04.
Eginyn erthygl sydd uchod am gardinal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.