José Saramago
Llenor a newyddiadurwr Portiwgeaidd oedd José de Sousa Saramago (16 Tachwedd, 1922 – 18 Mehefin, 2010). Ennillodd Wobr Llenyddiaeth Nobel yn 1998.
Ganed ef i deulu tlawd yn Azinhaga, pentref bychan yn nhalaith Ribatejo i'r de-ddwyrain o Lisbon. Symudodd y teulu i Lisbon yn 1924, lle cafodd ei dad waith fel plismon. Bu José yn gweithio fel mecanydd ceir am ddwy flynedd, yna fel cyfieithydd a newyddiadurwr. Daeth yn olygydd cynorthwyol y papur newydd Diário de Notícias.
Dim ond yn ei bum degau y daeth yn adnabyddus yn rhyngwladol, gyda chyhoeddi'r nofel Baltasar a Blimunda. Bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol Portiwgal ers 1969, ac achosodd ei syniadau gryn helynt ym Mhortiwgal ar adegau, yn enwedig ar ôl cyhoeddi Yr Efengyl yn ôl Iesu Grist, oedd yn potreadu Iesu fel dyn ffaeledig. Yn rhannol oherwydd yr helynt yma, symudodd ef a'i wraig i Lanzarote i fyw. Beirniadodd Israel yn hallt am ei gweithredodd ym Mhalesteina a Libanus.
Gweithiau [golygu]
| Teitl | Blwyddyn | |
|---|---|---|
| Terra do Pecado | 1947 | |
| Os Poemas Possíveis | 1966 | |
| Provavelmente Alegria | 1970 | |
| Deste Mundo e do Outro | 1971 | |
| A Bagagem do Viajante | 1973 | |
| As Opiniões que o DL teve | 1974 | |
| O Ano de 1993 | 1975 | |
| Os Apontamentos | 1976 | |
| Manual de Pintura e Caligrafia | 1977 | |
| Objecto Quase | 1978 | |
| Levantado do Chão | 1980 | |
| Viagem a Portugal | 1981 | |
| Memorial do Convento | 1982 | |
| O Ano da Morte de Ricardo Reis | 1986 | |
| A Jangada de Pedra | 1986 | |
| História do Cerco de Lisboa | 1989 | |
| O Evangelho Segundo Jesus Cristo | 1991 | |
| Ensaio sobre a Cegueira | 1995 | |
| Todos os Nomes | 1997 | |
| O Conto da Ilha Desconhecida | 1997 | |
| A Caverna | 2001 | |
| O Homem Duplicado | 2003 | |
| Ensaio sobre a Lucidez | 2004 | |
| Don Giovanni ou o Dissoluto Absolvido | 2005 | |
| As Intermitências da Morte | 2005 | |
| As Pequenas Memórias | 2006 |