John von Neumann
Mathemategydd Hwngaraidd, a ddaeth yn ddiweddarach yn ddinesydd o'r Unol Daleithiau, oedd John von Neumann, Hwngareg: Neumann János Lajos, (28 Rhagfyr, 1903 – 8 Chwefror, 1957). Gwnaeth gyfraniad mawr mewn cryn nifer o feusydd, yn cynnwys damcaniaeth set, peirianneg cwantwm a chyfrifiadureg. Bu ganddo ran bwysig yn natblygiad y bom hidrogen.
Ganed ef yn Budapest, i deulu Iddewig cefnog. Dangosodd dalent yn ieuanc, ac erbyn 1926 roedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Humboldt ym Merlin, yr ieuengaf yn ei hanes. Wedi marwolaeth ei dad yn 1929, ymfudodd y teulu i'r Unol Daleithiau. Daeth yn un o bedwar Athro cyntaf yr Institute for Advanced Study, (roedd y lleill yn cynnwys Albert Einstein a Kurt Gödel), a bu'n Athro mathemateg yno hyd ei farwolaeth.