John Lloyd Morgan

Oddi ar Wicipedia
John Lloyd Morgan
Ganwyd13 Chwefror 1861 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mai 1944 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Cwnsler y Brenin Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd John Lloyd Morgan (13 Chwefror 186117 Mai 1944) yn gyfreithiwr, yn farnwr a gwleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Gorllewin Caerfyrddin rhwng 1889-1910.[1][2]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Morgan yng Nghaerfyrddin yn fab i'r Parch William Morgan athro diwinyddiaeth yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin a Margaret merch Thomas Rees, Capel Tyddist ,Llandeilo ei wraig.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Tettenhall, Swydd Stafford; Coleg Owens, Manceinion a Choleg y Drindod, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1883.

Ni fu'n briod

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cafodd ei alw i'r bar yn y Deml fewnol ym 1884, fe'i dyrchafwyd yn Gwnsler y Brenin ym 1906. Gwasanaethodd fel Cofrestrydd Chwarter Sirol Abertawe o 1908 i 1910 a Barnwr Llys Sirol Sir Gaerfyrddin o 1910 hyd ei ymddeoliad ym 1926

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd yn enw'r Blaid Ryddfrydol mewn isetholiad yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin ym 1889 gan ddod i frig y pôl a gan ddal y sedd hyd 1910 pan ymneilltuodd o'r senedd ar gael ei benodi'n farnwr.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yng Nghaerfyrddin yn 83 mlwydd oed.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ‘MORGAN, His Honour John Lloyd’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 16 March 2016
  2. MORGAN , JOHN LLOYD (1861 - 1944); [Y Bywgraffiadur http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-MORG-LLO-1861.html ] adalwyd 16 Mawrth 2016
  3. "Obituary." Times [London, England] 19 May 1944: 7. The Times Digital Archive. Web. 16 Mar. 2016. [1]
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Walter Rice Howell Powell
Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin
1889 - 1910
Olynydd:
John Hinds