John Jones (1772-1837)

Oddi ar Wicipedia
John Jones
Ganwyd17 Awst 1772 Edit this on Wikidata
Llandybïe Edit this on Wikidata
Bu farw28 Medi 1837 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfieithydd, bargyfreithiwr, hanesydd Edit this on Wikidata

Roedd John Jones (17 Awst 177228 Medi 1837) yn fargyfreithiwr, cyfieithydd, a hanesydd Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones yn Nerwydd, Llandybïe, Sir Gaerfyrddin. Does dim llawer sy'n wybyddus am ei blentyndod ond mae'n ymddangos ei fod wedi derbyn rhywfaint o addysg glasurol.[2]

Gyrfa gyfreithiol[golygu | golygu cod]

Yn ŵr ifanc cafodd ei gyflogi fel ysgolfeistr yn Wimbledon. Honnir bod Syr Robert Peel, a daeth wedyn yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, ymhlith ei ddisgyblion. Trwy fyw yn gynnil llwyddodd i hel swm dechau o arian allan o'i gyflog fel athro, a derbyniodd hefyd cymynrodd gwerth £20 y flwydd gan berthynas iddo, Mrs Bevan o Dalacharn.[3] Penderfynodd rhoi'r gorau i fod yn athro a defnyddio ei arian i deithio ar y Cyfandir. Yn ystod ei deithiau bu'n fyfyriwr mewn pum prifysgol yn Awstria a dau yn yr Almaen gan gynnwys Prifysgol Jena, yr Almaen lle enillodd gradd Ll.D. (Doethur yn y gyfraith).

Wedi dychwelyd o'r Almaen aeth i Lincoln's Inn gan gael ei alw i'r bar ym 1803. Dechreuodd gweithio ar gylchdeithiau cyfreithiol Rhydychen a de Cymru. Roedd ganddo bractis llwyddiannus i gychwyn ond bu ei dymer afrywiog, yn achos ddinistr i'w lwyddiant.[4] Daeth ei yrfa fel bargyfreithiwr i ben wedi iddo wneud sylwadau difrïol am weinyddwyr y gyfraith wrth bledio achos cleient tlawd oedd, yn ei dyb ef, wedi ei gam drin gan fyd cyfreithiol oedd a mwy o ddiddordeb mewn llenwi ei phoced ei hun na rhoi cyfiawnder i'r tlawd. Achosodd ei sylwadau gymaint o ddrwg deimlad yn y proffesiwn fel bod cyfreithwyr yn gwrthod rhoi achosion iddo a bargyfreithwyr eraill yn gwrthod cyd-weithio ag ef.[5]

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Trodd Jones ei law at lenydda, ond ni fu ei yrfa lenyddol yn llwyddiant ysgubol chwaith. Tra ar ei deithiau yn Ewrop cyfieithodd o'r Ddaneg dyddiadur Yr Athro Thomas Bügge o'i deithiau yn Ffrainc fel Dr Bugge's Travels in the French Republic (1801).[6] Cyhoeddodd llawlyfr ar y gyfraith enllib De Libelles Famosis or The Law of Libel ym 1812. Cyhoeddodd Y Cyfamod Newydd ym 1818, sef cyfieithiad Cymraeg newydd o Efengylau'r Testament Newydd, ond derbyniodd y gwaith ymateb llugoer gan fod safon ei Gymraeg mor wan. Ym 1824 cyhoeddodd lyfr ar hanes Cymru History of Wales, bu feirniadaeth hallt ar y llyfr am fod yn anghywir yn ei ffeithiau; am gynnwys sylwadau dilornus am bobl Cymru ac am drafod diwygiadau crefyddol Cymru mewn dull oedd yn awgrymu ei fod yn anffyddiwr.[7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Wedi methu fel bargyfreithiwr ac fel awdur bu farw Jones mewn tlodi yn St. James's Street, Islington yn 65 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Eglwys y Santes Mair yn Islington.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]