John Johnes

Oddi ar Wicipedia
John Johnes
Ganwyd6 Ebrill 1800 Edit this on Wikidata
Stad Dolaucothi Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 1876 Edit this on Wikidata
Stad Dolaucothi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbargyfreithiwr, barnwr Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Edwardes Edit this on Wikidata
PlantElizabeth Hills-Johnes Edit this on Wikidata

Roedd John Johnes (6 Ebrill 180019 Awst 1876) yn fargyfreithiwr barnwr a thirfeddiannwr Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Johnes ym Mhlas Dolaucothi, yn blentyn i'r Cyrnol John Johnes milwr, tirfeddiannwr a pherchennog mwynglawdd plwm ac Elizabeth (née Bowen) ei wraig. Roedd Jane wraig Thomas Johnes AS, Hafod Uchtryd yn chwaer i'r tad a Thomas hefyd yn gefnder iddo.[2] Wedi cyfnod mewn ysgol elfennol yn Llanbedr Pont Steffan aeth i ysgol breswyl yng Nghaerfaddon ac yna i Goleg y Trwyn Pres, Rhydychen. Pan oedd yn 15 mlwydd oed bu farw ei dad mewn tlodi, wedi yfed holl olud y teulu ac wedi gadael llwyth o ddyledion fel etifeddiaeth i'w mab. Roedd ei drafferthion ariannol yn creu anhawster i Johnes talu ffioedd ei brifysgol. Daeth yn fyfyriwr ym 1817, ond gymerodd naw mlynedd cyn iddo raddio BA ym 1826. Cafodd MA ym 1829.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Galwyd Johnes i'r bar yn y Deml Ganol ym 1831 a dechreuodd deithio fel bargyfreithiwr ar gylchdaith de Cymru. Oherwydd sefyllfa ariannol teulu Dolaucothi roeddynt wedi syrthio allan efo teulu'r Hafod ac wedi colli pob cysylltiad. Wedi marwolaeth Thomas Johnes a Jane ei wraig cymerodd y Parch Samuel Johnes-Knight, brawd iau Thomas trugaredd ar ei gyfyrder tlawd. Roedd gan Johnes-Knight cysylltiadau cryf efo arweinwyr y llywodraeth a'r teulu brenhinol a chytunodd i ddefnyddio ei ddylanwad i geisio swydd lywodraethol i Johnes. Ym 1836 penodwyd Johnes yn gomisiynydd cynorthwyol o dan Ddeddf Cyfnewid y Degwm.[4] Cafodd swyddi tebyg gyda chomisiynau'r Morlys, Deiliadaeth, Cau Tiroedd a Gwallgofrwydd.

Ym 1847 fe'i penodwyd yn farnwr y llys sirol, adran Caerfyrddin,[5] yn Gofrestrydd llys Caerfyrddin ym 1851 ac yn gadeirydd Llys Sasiwn Sir Gaerfyrddin ym 1854.[6] Roedd hefyd yn Ynad Heddwch dros Siroedd Penfro, Caerfyrddin Morgannwg a Cheredigion. Trwy ei waith cyfreithiol llwyddodd i adfer ystâd Dolaucothi.[7]

Fel tirfeddiannwr a gŵr y gyfraith cafodd ei hun yng nghanol Helyntion Beca rhwng 1839 a 1843. Yn wahanol i nifer o'i gymdogion bu Johnes yn dirfeddiannwr goleuedig a wnaeth lawer i gadw ei ardal yn dawel yn ystod yr helyntion. Ysgrifennodd traethawd dwyieithog i'w dosbarthu i'w denantiaid Annerchiad at Drigolion Plwyf Conwil-Gaio,yn Swydd Gaerfyrddin, a'r Plwyfau Cymdogaethol. Yn y traethawd roedd yn atgoffa ei ddarllenwyr o ba mor ddidrugaredd gallai'r gyfraith bod trwy dorri teuluoedd wrth ddefnyddio alltudiaeth fel cosb. Anogodd y rhai oedd yn ddigon hen i gofio i ddweud wrth y bobl iau pa mor wael oedd cyflwr y ffyrdd cyn bod tollau yn cael eu codi i wella'u cyflwr. Eglurodd mai'r ffermwyr a'r trigolion yn talu am unrhyw ddifrod i dollbyrth a gatiau yn y pen draw trwy eu trethi.

Tu allan i'w gwaith fel barnwr a thirfeddiannwr roedd gan Johnes diddordeb mawr mewn hynafiaethau a daeareg. Bu'n cynorthwyo'r Athro Edward Forbes yn ei astudiaethau daearyddol yng Nghymru. Fel perchennog ystâd Dolaucothi oedd â chysylltiadau efo'r Rhufeiniaid bu'n gwneud astudiaethau archeolegol ar ei dir a chyflwynodd nifer o'r eitemau a ddarganfu i'r Amgueddfa Brydeinig.[8]

Roedd yn gefnogwr brwd o achos y Seiri Rhyddion, bu'n gwasanaethu fel Arch Meistr rhanbarth de orllewin Cymru o'r mudiad.

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1822 priododd Johnes ag Elizabeth merch Y Parch John Edwardes o Ystâd Gileston yn sir Forgannwg. Ganwyd mab iddynt ym 1823 ond bu farw yn Ffrainc yn fuan wedyn wrth i'r teulu mynd ar daith gyfandirol. Bu iddynt hefyd ddwy ferch.[9]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Roedd gan Johnes bwtler o'r enw Henry Tremble oedd wedi ei wasanaethu am 17 mlynedd. Roedd y bwtler yn awyddus i ddod yn landlord a thenant ar dafarn y Dolaucothi Arms ym Mhumsaint, oedd yn eiddo i'r ystâd. Roedd Johnes dim yn credu byddai gwraig Tremble yn addas ar gyfer swydd meistres tafarn a gwrthododd y cais am y denantiaeth. Wedi gwylltio bod ei gais wedi ei wrthod saethodd ei feistr yn farw. Ceisiodd hefyd llofruddio chwaer Johnes, ond methodd ei ergyd i fod yn un farwol ond fe gafodd hi anafiadau difrifol. Llwyddodd Tremble i ffoi rhag yr heddlu ac fe gyflawnodd hunanladdiad ychydig wedyn.[10]

Rhoddwyd corff Johnes i orwedd yng Nghladdgell y teulu yn Eglwys Caeo.[11] Cafodd corff Tremble hefyd ei gladdu ym mynwent eglwys Caeo mewn dirgelwch yng nghanol y nos. Wedi i drigolion yr ardal clywed am hyn roeddynt wedi ffieiddio bod y llofrudd yn rhannu'r un tir sanctaidd a'r un a llofruddiwyd. Codwyd y corff o'r bedd a chafodd ei drosglwyddo i Landdulas, Sir Faesyfed i'w claddu. Doedd trigolion Llanddulas ddim eisio corff llofrudd ym mynwent eu heglwys chwaith, felly fe wnaethant ddychwelyd y corff i Gaeo. Cafodd y corff ei ail gladdu yng Nghaeo dan dir oedd heb ei gysegru.[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. JOHNES, JOHN (1800 - 1876), bargyfreithiwr a barnwr llys sirol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 25 Hyd 2020
  2. Carmarthenshire notes (antiquarian, topographical, and curious) Vol. II Part 4 Dec. 1890 tud 120 Adferwyd 25 Hyd 2020
  3. Ceredigion : Journal of the Cardiganshire Antiquarian Society Vol. 3, nos. 1-4, 1956-1959 JOHN JOHNES (1800— 1876) gan Herbert John Lloyd-Johnes. Adferwyd 25 Hyd 2020
  4. "THE LATEST INTELLIGENCE - The Cambrian". T. Jenkins. 1836-11-12. Cyrchwyd 2020-10-26.
  5. "CARMAitTHENSHIRE - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1847-03-12. Cyrchwyd 2020-10-26.
  6. "A SHOCKING TRAGEDY - Flintshire Observer Mining Journal and General Advertiser for the Counties of Flint Denbigh". James Davies and Edward Jones Davies. 1876-08-25. Cyrchwyd 2020-10-26.
  7. Cymru Vol. 26, 1904 DOLAU COTHI GAN E. B. MORRIS (IEUAN GLAN TEIFI), LLANBEDR PONT STEPHAN Adferwyd 25 Hyd 2020
  8. Archaeologia Cambrensis Fourth Series No. XXVIII October 1876 Obituary John Johnes, Esq., M.A., of Dolaucothy Adferwyd 25 Hyd 2020
  9. Yr Haul Cyf. 8 rhif. 91 - Gorphenaf 1864 GWEHELYTH JOHN JOHNES, YSWAIN, DOLAU COTHI, SWYDD CAERFYRDDIN Adferwyd 25 Hyd 2020
  10. "ERCHYLLWAITH OFNADWY YN NGHYMRU - Llais Y Wlad". Kenmuir Whitworth Douglas. 1876-08-25. Cyrchwyd 2020-10-26.
  11. "CLADDEDiGAETH MR JOHN JOHNES DOLAUCOTHI - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1876-09-01. Cyrchwyd 2020-10-26.
  12. "Llansawel Tragedy - The Amman Valley Chronicle and East Carmarthen News". Gwilym Vaughan. 1916-07-20. Cyrchwyd 2020-10-26.