Caeo (pentref)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Caio

Pentref yng nghymuned Cynwyl Gaeo yn Sir Gaerfyrddin yw Caeo neu Caio. Saif ychydig i'r dwyrain o'r briffordd A482 gerllaw pentref Pumsaint, tua hanner y ffordd rhwng Llanbedr Pont Steffan a Llanymddyfri, lle mae Afon Annell a Nant Frena yn cyfarfod.

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Cynwyl. Gerllaw mae ffordd Rufeinig, ac heb fod ymhell o'r pentref mae mwynglawdd aur Rhufeinig Dolaucothi. Daliai Llywelyn ap Gruffudd Fychan diroedd yn yr ardal.

Pobl o Gaeo[golygu]