Johannes Nicolaus Brønsted
Oddi ar Wicipedia
Cemegydd ffisegol o Ddenmarc oedd Johannes Nicolaus Brønsted (1879 - 1947). Cafodd ei eni yn Varde, Denmarc.
Astudiodd gemeg a peirianneg yn Sefydliad Polytecnic Copenhagen, lle daeth yn athro cemeg yn 1908.
Cofir Brønsted yn bennaf am y diffiniad o natur asidau a basau a ffurfiodd ar y cyd â'i gymrawd Martin Lowry, a elwir yn Ddamcaniaeth Brønsted-Lowry. Yn ôl y diffiniad hwnnw, mae asid yn ddeunydd sy'n tueddu i golli proton tra bod bas yn ddeunydd sy'n tueddu i ennill un.