Jeanne d’Arc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jeanne d’Arc yng ngwarchae Orleans

Merch o blith gwerin Ffrainc a gafodd ddylanwad mawr ar gwrs y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr oedd Jeanne d'Arc, weithiau Siwan o Arc (c. 1412 - 30 Mai, 1431).

Bywgraffiad[golygu]

Yn 1428, roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas Orléans yng nghanolbarth Ffrainc. Yn 1429, perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, Jeanne d’Arc, y Dauphin, Siarl VII, i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd Afon Loire. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn Reims fel Siarl VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.

Cymerwyd Jeanne d’Arc yn garcharor gan y Bwrgwyniaid mewn ysgarmes ger Compiègne yn 1430, a’i gwerthu i’r Saeson. Rhoddasant hwy hi ar ei phrawf o flaen llys eglwysig, a'i chafodd yn euog o heresi. Dienyddiwyd hi trwy losgi. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Pab ei bod yn ddieuog ac yn ferthyr.

Cyfeiriadau[golygu]


Baner FfraincEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.