Ius gentium

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Rhan o gyfraith Rhufain a ddefnyddiwyd gan yr Ymerodraeth Rufeinig wrth gynnal cysylltiadau â thramorwyr, yn enwedig deiliaid taleithiol, oedd ius gentium (Lladin am "gyfraith cenhedloedd"). Bellach mae'n cyfeirio at y gyfraith naturiol neu gyffredin ymhlith gwladwriaethau o fewn y gymdeithas fyd-eang, yn enwedig rheolau heddwch a rhyfel, ffiniau cenedlaethol, diplomyddiaeth, ac estraddodiad. Yn yr ystyr hon ius gentium, ynghŷd ag ius inter gentes, yw cyfraith ryngwladol gyhoeddus.

Scale of justice 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill