Isotta Nogarola

Oddi ar Wicipedia
Isotta Nogarola
Ganwyd1418 Edit this on Wikidata
Verona Edit this on Wikidata
Bu farw1466 Edit this on Wikidata
Verona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fenis Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, dyneiddiwr, athronydd Edit this on Wikidata

Bardd ac ysgolhaig o Eidales oedd Isotta Nogarola (14181466) sy'n nodedig fel un o brif lenorion a meddylwyr benywaidd y Dadeni.

Ganwyd i deulu bonheddig yn Verona, Gweriniaeth Fenis. Cafodd addysg ddyneiddiol dan diwtoriaeth Martino Rizzoni (1404–88), a dysgodd Ladin, athroniaeth foesol, barddoniaeth, ac hanes. Roedd yn hynod o anarferol i ferch dderbyn addysg o'r fath, a ni chafodd wersi rhethreg, sef pwnc a ddysgid gan ddynion ifainc yn unig. Ysgrifennodd sawl traethawd yn Lladin, ac ysgrifennodd lythyr at Guarino da Verona yn mynnu ei fentoriaeth. Fe'i anwybyddwyd am flwyddyn gyfan cyn iddi dderbyn ymateb dirmygus.[1]

Aeth Nogarola i Fenis yn 1438 wedi i Verona gael ei tharo gan y pla. Denodd sylw am geisio ymddadlau â'r ysgolheigion gwrywaidd yno, a chafodd ei beirniadu a'i dychanu am ei hymdrechion. Dychwelodd i'w theulu yn Verona yn 1441 ac yno astudiodd y Beibl a'r awduron clasurol. Yng nghanol y 15g, cafodd nifer o'i llythyrau eu copïo a'u darllen ar draws gogledd a chanolbarth yr Eidal. Ynddynt mae hi'n mynegi ei chyfuniad o foeseg Gristnogol ac athroniaeth ddyneiddiol y Dadeni. Yn 1451 cafodd Nogarola ddadl â'r diplomydd Ludovico Foscarini, ac ar sail yr ohebiaeth hon ysgrifennodd ymgom am stori Gardd Eden a chwymp y ddynolryw. Cyhoeddwyd y gwaith hwnnw wedi ei marwolaeth, ynghyd â'i cherdd Elegia de Laudibus Cyanei Ruris. Bu farw, heb briodi, oddeutu 48 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Tom Streissguth, The Greenhaven Encyclopedia of the Renaissance (Farmington Hills, Michigan: Greenhaven Press, 2008), tt. 229–30.