Ioga Yin

Oddi ar Wicipedia
Ioga Yin
Sesiwn Yin yn y cartref; 2021
Mathioga Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cara Sgidiau, asana clasurol mewn Ioga Yin, yn seiliedig ar y Gomukhasana[1]

Mae Ioga Yin (Saesneg: Yin Yoga) yn arddull o ioga araf, modern gyda'r nod o ymarfer y corff a chadw'n heini. Mae Ioga Yin yn ymgorffori egwyddorion meddygaeth Tsieineaidd draddodiadol, gydag asanas (neu ystumau corfforol) a gynhelir am gyfnodau hirach o amser nag mewn mathau eraill o ioga.

Ar gyfer dechreuwyr, gellir cynnal asanas o 45 eiliad i ddau funud; gall ymarferwyr mwy trwyadl aros mewn un safle am bum munud neu fwy. Bwriad y dilyniannau o asanas hyn yw ysgogi sianeli'r corff cynnil (subtle body) a elwir yn feridian mewn meddygaeth Tsieineaidd ac fel nadis yn ioga hatha.

Mae Ioga Yin yn peri straen cymedrol i feinweoedd cyswllt y corff - y tendonau, y fasciae, a'r gewynnau - gyda'r nod o gynyddu cylchrediad y gwaed yn y cymalau a gwella hyblygrwydd cyffredinol y corff. Gydag agwedd fwy myfyriol at ioga, ei nodau yw ymwybyddiaeth o dawelwch mewnol, a dod ag ysgafnder rhyng-gysylltiol y bydysawd i'r amlwg.

Sefydlwyd Ioga Yin (Saesneg: Yin Yoga) ar ddiwedd y 1970au gan arbenigwr crefft ymladd ac athro ioga Paulie Zink a oedd cyn hynny wedi arbenigo mewn ioga Daoyin. Addysgir Ioga Yin heddiw (2022) ar draws Gogledd America ac Ewrop, gyda chefnogaeth athrawon nodedig megis Paul Grilley a Sarah Powers. Fel y dysgir gan Grilley a Powers, nid yw Ioga Yin wedi'i fwriadu fel disgyblaeth gyflawn ynddo'i hun, ond fel atodiad i fathau mwy egnïol o ioga ac ymarfer corff. Fodd bynnag, mae dull Zink yn cynnwys yr ystod lawn o ioga Taoist, yin a ioga chonfensiynol.

Egwyddorion[golygu | golygu cod]

In ac Iang (Yin ac yang)[golygu | golygu cod]

Mae Ioga Yin yn seiliedig ar y cysyniadau Taoist o in ac iang, egwyddorion cyferbyniol a chyflenwol eu natur. Gellid disgrifio Yin fel yr hyn sy'n sefydlog, ansymudol, benywaidd, goddefol, oer, ac yn symud ar i lawr. Ar y llaw arall, mae Yang yn newid, yn symudol, yn wrywaidd, yn egnïol, yn boeth ac yn symud i fyny. Mae'r haul yn cael ei ystyried yang, y lleuad yn yin.[2] Yn y corff, ystyrir y meinweoedd cysylltiol cymharol stiff (tendonau, gewynnau, fascia) yn yin, tra bod y cyhyrau a'r gwaed mwy symudol a hyblyg yn cael eu galw'n yang. Mae asanas mwy goddefol mewn ioga yn cael eu hystyried yn yin, tra bod yr asanas mwy egnïol, deinamig yn cael eu disgrifio fel yang.[3]

Mae Ioga Yin yn defnyddio dilyniannau penodol o ystumiau i ysgogi meridians penodol, neu sianeli cynnil, fel y deallir mewn Meddygaeth Tsieineaidd Draddodiadol; mae'r rhain yn cyfateb i'r sianeli nadi yn ioga hatha.[4]

Yn unol â'i wreiddiau yn Ioga Taoist, dywed Zink fod gan Ioga Yin bwrpas dyfnach, sef: "agor y galon a galw'r hunan cyntefig."[5] Dywed Powers mai un o brif amcanion ymarfer yin yw meithrin y tawelwch mewnol.[6]

Ymarfer[golygu | golygu cod]

Mae ymagwedd Zink at Ioga Yin yn cynnwys asanas (neu ystumiau corfforol) yin ac yang, ac mae'n ymgorffori symudiad rhwng ystumiau fel elfen o yang.[7] Mewn cyferbyniad, mae sesiynau Ioga Yin Yoga a addysgir gan Grilley a Powers yn cynnwys cyfres o ystumiau llawr sy'n cael eu cynnal am amser hir, ac sy'n effeithio'n bennaf ar ran isaf y corff - y cluniau, y pelfis, y cluniau mewnol, rhan isaf yr asgwrn cefn - tua 18 i 24 ohonynt. Mae'r ardaloedd hyn yn arbennig o gyfoethog mewn meinweoedd cyswllt, ac mae eu "llwytho" (mae athrawon Yin Yoga yn osgoi'r gair "ymestyn") yn brif ffocws yn yr arddull hon o ioga.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Rhestr o asanas#Asanas — Rhoddir enwau Yin Yoga yn y tabl ar gyfer yr ystumiau 'Yang' y maent yn debycach iawn o ran ffurf
  • Ioga Adferol - dull hirsefydlog gwahanol i Judith Lasater

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Clark, Bernie (2007). YinSights : a Journey into the Philosophy & Practice of Yin Yoga. B. Clark. ISBN 978-0-9687665-1-4. OCLC 759407291.
  • Clark, Bernie (2012). The Complete Guide to Yin Yoga : the Philosophy and Practice of Yin Yoga. White Cloud Press. ISBN 978-1-935952-50-3. OCLC 707257399.
  • Grilley, Paul (2002). Yin Yoga : Outline of a Quiet Practice. White Cloud Press. ISBN 978-1-883991-43-2. OCLC 49902188.
  • Grilley, Paul (2012). Yin Yoga : Principles & Practice. White Cloud Press. ISBN 978-1-935952-70-1. OCLC 781678727.
  • Powers, Sarah (2008). Insight Yoga. Shambhala. ISBN 978-1-59030-598-0. OCLC 216937520.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Shoelace Pose". Tummee. Cyrchwyd 26 April 2019.
  2. Pizer, Ann (17 Mai 2012). "Yin Yoga". about.com Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 11 Ionawr 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 Maria, Lisa (September 2008). "Soothe Yourself". Yoga Journal.
  4. Ferretti, Andrea (June 2007). "Sweet Surrender". Yoga Journal.
  5. Zink, Paulie; Zink, Maria (March 2012). "Yin Yoga". Yoga Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-11. Cyrchwyd 8 Ionawr 2013.
  6. Sexton, Michael (13 Tachwedd 2009). "YJ Interview: The Delight of Insight". Yoga Journal. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2014.
  7. "Yin Yoga". Yoga Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-11. Cyrchwyd 12 Chwefror 2013.
  8. Powers 2008, tt. 46–47.
  9. Grilley 2012, t. 74.
  10. Powers 2008, tt. 39–41.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]