I. M. Pei
Oddi ar Wicipedia
Pensaer Americanaidd a aned yn China yw Ieoh Ming Pei (ganed 26 Ebrill, 1917), a adnabyddir fel rheol fel I. M. Pei. Ganed ef yn Guangzhou, yn Guangdong, China. Roedd ei dad yn fanciwr, a daeth yn gyfarwyddwr Banc China yn ddiweddarach. Symudodd y teulu i Hong Kong, yna i Shanghai. Yn 18 oed aeth i astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau, ac yn ddiweddarach yn Harvard, lle bu'n astudio dan Walter Gropius.
Dechreuodd Pei ei gwmni ei hun yn 1955, a bu'n gyfrifol am nifer fawr o adeiladau adnabyddus trwy'r byd; yr enwocaf efallai yw Pyramid y Louvre ym Mharis.