Henri Desgrange

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Seiclwr rasio a gohebydd chwraeon Ffrengig oedd Henri Desgrange (ganwyd 31 Ionawr 186516 Awst 1940). Gosododd gyfanswm o 12 record seiclo trac y byd, gan gynnwys record yr awr o 35.325 cilomedr. Ef oedd trefnydd cyntaf y Tour de France.

Bywgraffiad[golygu]

Henri Desgrange

Roedd Henri Desgrange yn un o efeilliad, disgrifwyd ei frawd Georges Desgrange fel rhywun a oedd heb uchelgeisiau o gwbl.[1] Ganwyd y ddau frawd ym Mharis, i deulu cyfforddus dosbarth canol.

Gweithiodd Desgrange fel clerc yn swyddfa cyfraith Depeux-Dumesnil ger y Place de Clichy ym Mharis, ac mae'n bosib y bu iddo ymgymhwyso fel cyfreithiwr.[2] Mae chwedl yn honni iddo gael ei ymddiswyddo am seiclo i'r gwaith, gan iddo ddangos amlinell ei croth coes yn ei sannau tyn wrth wneud hynny.[3] Roedd yn well ganddo'r byd chwaraeon i'r gyfraith, felly dechreuodd ymglymu ei hun â chwaraeon, ymrwymiad a barhaodd hyd weddill ei oes. Gwyliodd Desgrange ei ras seiclo gyntaf ym 1891 pan aeth i ddiwedd ras Bordeaux-Paris.[4] Dechreuodd rasio ar y trac ond dioddefodd yno oherwydd diffyg cyflymu pwerus yr oedd ei angen. Roedd reidio dygner yn gweddu'n well gyda fe, a gosododd record yr awr cyntaf erioed i gael ei gydnadbod ar 11 Mai 1893, pan reidiodd 35.325 cilomedr ar velodrome Buffalo ym Mharis.[5] Sefydlodd recordiau ar bellteroedd o 50 a 100 cilomedr a 100 milltir yn ogystal, ac ef oedd pencampwr treisicl 1893.[6][7]

Ysgrifenodd Desegrange lawlyfr hyfforddi ym 1894, La tête et les jambes,[8] ynddo cynhaliodd sgwrs gyda reidwr ifanc na gafodd ei enwi, credir mai ef pan oedd yn ifanc yw'r reidiwr hwn. Mae'r llyfr yn cynnwys y cyngor nad yw reidiwr uchelgeisiol angen merch ddim mwy nag y mae anged pâr o sannau heb eu golchi. Ysgrifennodd lyfr arall ym 1894, Alphonse Marcaux[9].

Ym 1897 daeth yn gyfarwyddwr velodrome Parc des Princes ac yna ym mis Rhagfyr 1903, yn gyfarwyddwr ar drac dan dô parhaol cyntaf Ffrainc, sef y Vélodrome d'Hiver, ger y Tŵr Eiffel.

L'Auto[golygu]

Roedd Ffrainc wedi ei hollti tuag at ddiwedd yr 19eg ganrif, ynglyn a euogrwydd neu di-euogrwydd y milwr Alfred Dreyfus yn Achos Dreyfus, a oedd wedi cael ei gyhuddo o werthu cyfrinachau i'r Almaenwyr. Roedd y prif babur chwaraeon, Le Vélo - a oed dyn gwerhtu 80,000 copi y dydd[3] - yn cymysgu adrodd chwaraeon a sylwebu ar wleidyddiaeth, a cefnogodd y papur dros rhyddfarnu Dreyfus. Ond credai rhai o brif hysbysebwyr y papur, yn arbennig ffatir geir Dion a gweithfeydd teiars Clément, fod Dreyfus yn euog. Bu dadl rhwng yr hysbysebwyr a'r golygydd, Pierre Giffard, gan arwain at yr hysbysebwyr yn tynnu eu hysbysebion allan a dechrau eu papur eu hunain. Mae fersiwn arall o'r stori yn dweud mai Giffard a alltudiodd yr hysbysebwyr.[4]

Canfyddodd Albert de Dion ac Adolphe Clément[10] nifer eraill o gefnogwyr a oedd yn credu fod prisiau hysbysebu Le Vélo' yn rhy uchel neu, fel Desgrange, a oedd wedi cael eu hysbysebu wedi ei wrthod neu heb dderbyn diddordeb yn eu cyfeiriad golygyddol.[4] Roedd yr un peth yn wir am Victor Goddet, y dyn a ddaeth yn bartner busnes i Desgrange, a oedd hefyd yn gyfarwyddwr ar vélodrome. Perswadwyd y grŵp i gymryd Desegrange ymlaen gan ei frwydfrydedd, ei allu chwaraeon a'r gwaith ysgrifennu a gwaith y wasg a oedd wedi ei gwblhau ar gyfer Clément.

Dywedodd Geoffrey Nicholson fod Desgrange yn coegwych ar y tu allan ond yn ofalus yn breifat ac fod ganffo nifer o gysylltiadau da yn y diwydiant seiclo. Roedd yn amlwg nad oedd ynperson gwleidyddol cryf, ac fe fodelodd ei hun fel ysgrifennydd ar Émile Zola, a oedd wedi cael ei ddifenwi waethaf o holl amddiffynwyr Dreyfus.[3][11]

Heblaw hyn, a dod a Goddet i ewn i edrych ar ôl y llyfrau ac efallai ymesyn y potensial ar gyfer rhedeg rasus seiclo, ni wyddai'r diwydianwyr ddim am bapurau newydd a'r oll a ofynont i Desgrange oedd iddo yrru Giffard allan o fusnes. Rhoddodd Desgrange yr agraff nad oedd yn fath o ddyn i groesawu ymgynghoriad na chael ei gwestiynu. Cafodd Desgrange ei ffordd ei hun. Dim ond blynyddoedd yn diweddarach a gyfaddefodd iddo ef a Goddet eistedd ar fainc tu allan i dŷ moethus De Dion ar yr Avénue de la Grande Armée gan gynhyrfu cymaint drost ymuno â'r fenter newydd ai peidio, y gadawsont y penderfyniad tan y diwrnod canlynol.[1]

Ymddangosodd rhifyn cyntaf L'Auto-Vélo ar 16 Hydref 1900. Argraffwyd ar bapur melyn iw wahaniaethu rhwng y Le Vélo a oedd yn cale ei argraffu ar papur gwyrdd. Ond daeth achos llys gan y papur gwreiddiol ym mis Ionawr 1902 a cyntunwyd for yr enw yn rhy debyg felly bu'n rhaid newid enw'r papur newydd i ond L'Auto. Dewiswyd y teitl newydd i adlewyrchu'r brwdfrydedd ar y pryd am geir rasio a'u dyfodol fel chwaraeon yn Ffrainc.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Goddet, Jacques (1991) L'Équipée Belle, Robert Laffont, France
  2. Mae rhifyn cyntaf L'Auto yn ei ddisgrifio fel "a former advocate at the Court of Appeal".
  3. 3.0 3.1 3.2 Geoffrey Nicholson (1991) Le Tour, the rise and rise of the Tour de France, Hodder and Stoughton, y DU
  4. 4.0 4.1 4.2 Jean-Luc Boeuf a Yves Léonard (2003) La République de Tour de France, Seuil, Ffrainc
  5. Gosodwyd y record gynt ym 1876 pan reidiodd F. L. Dodds 26.508 km ar penny-farthing. Roedd y Vélodrome Buffalo ger y Porte Maillot, Neuilly-sue-Seine. Adeiladwyd ym 1893 a rhedwyd hyd 1895 gan Tristan Bernard, y dyn a ddechreuodd yr arferiad o ganu cloch i ddynodi'r gylched olaf. Diflanodd y trac pan defnyddiwyd i adeiladu ffatri awyrennau yn ystod y rhyfelbyd cyntaf.
  6. Noël Truyers (1999); Henri Desgrange, De Eeclonaar, Gwlad Belg
  7. Roedd recordiau yn bodoli gynt, ond hwn oedd y cyntaf i gael ei gadarnhau'n yn rhyngwladol.
  8. La tête et les jambes(1894), L. Pochy, France, ailargraffwyd 1930, Henri Richard, Ffrainc
  9. Alphonse Marcaux (1899), L. Pochy, France
  10. Clément, always a keen cyclist, was one of France's greatest industrialists. He started with a bicycle repair works that he opened in Bordeaux at 21. He extended to manufacturing whole bicycles and opened a factory in Lyon, then in Paris, where he also ran a cycling school. In 1888 he negotiated the rights to sell Dunlop tyres in France. He bought a cycling track in Paris and then in 1900 sold it to concentrate on building cars.
  11. :"He was outwardly flamboyant, privately cautious and well-connected in the cycle industry. But he was clearly no political die-hard, for as a writer he modelled himself on Émile Zola, who had been the most reviled of all defenders of Dreyfus."