Achos Dreyfus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sgandal gwleidyddol oedd Achos Dreyfus, a rannodd Ffrainc yn y 1890au a'r 1900au cynnar. Roedd yn ymwneud â euogfarnu'r Capten Alfred Dreyfus, swyddog magnelaeth Ffrengig ifanc o dras Alsasiaidd - Iddewig, am fradwriaeth ym mis Tachwedd 1894. Cafodd ei ddedfrydu i'r carchar am oes, wedi iddo gael ei gyhuddo o drosglwyddo cyfrinachau milwrol Ffrengig i'r Llysgenhadaeth Almaenig ym Mharis. Cafodd Dreyfus ei anfon i'r wladfa benydiol ar Île du Diable yn Guyane a cafodd ei gadw mewn caethiwed anghyfannedd.

Dyflwydd yn ddiweddarach, ym 1896, daeth tystiolaeth i'r olwg a oedd yn pwytio at euogrwydd cadfridog yn y fyddin Ffrengig, sef Ferdinand Walsin Esterhazy. Ond atalwyd y dystionaeth hwn gan swyddogion uchel yn y fyddin, a cafodd Esterhazy ei ryddfarnu yn unfryd wedi ail ddiwrnod yr achos llys milwrol. Yn hytrach na chael ei ddifeio, cafodd Alfred Dreyfus ei gyhuddo'n bellach ar sail dogfennau ffug a grewyd gan y swyddogion gwrth-wybodaeth a oedd yn ceisio ail-gadarnau ei euogfarniaeth.

Dechreuodd y newyddion ynglyn a fframio Alfred Dreyfus gan y llys milwrol ymledaenu, yn bennaf oherwydd y gwrthwynebiad cyhoeddus tanbaid mewn papur newydd Paris gan Emile Zola ymmis Ionawr 1898. Cafodd yr achos ei ail-agor a daethpwyd ag Alfred Dreyfus yn ôl o Guiana ym 1899 i gael ei roi ar brawf unwaith eto. Cafodd cymdeithas Ffrengig ei hollti gan yr helynt gwleidyddol dwyas a oedd i ddilynm rhwng cefnogwyr Dreyfus (y Dreyfusards[nodyn 1]) and those who condemned him (a'r anti-Dreyfusards), megis Edouard Drumont (cyfarwyddwr a chyhoeddwr papur newydd gwrth-semitig La Libre Parole) a Hubert-Joseph Henry.

Yn y diwedd, profwyd fod yr holl gyhuddiadau yn erbyn Alfred Dreyfus yn ddi-sail. Cafodd Alfred Dreyfus ei ddifeio a cafodd ei adfer yn gadfridog yn y fyddin Ffrengig ym 1906. Yn ddiweddarach, gwassanaethodd drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddod a'i yrfa yn y fyddin i ben tra'n Is-gapten-cyrnol.

[golygu] Hanes

Roedd gwrth-semitaeth yn Ffrainc tuag at ddiwedd yr 19eg ganrif yn cael ai arddangos mewn print ac mewn areithiau cyhoeddus gan wleidyddwyr a newyddiadurwyr y dde-pell. Wedi dyfodiad swyddogol Trydydd Gweriniaeth Ffrainc ym 1871, roedd gwleidyddion cenedlaetholgar yn 188au megis Georges Boulanger, Edouard Drumont (sefydlydd Cyngrhair Gwrthsemitig Ffrainc) a Paul Déroulède (sefydlydd Ligue des Patriotes) yn ceisio cymryd mantais o'r brwdfrydedd am Ffraic Gatholig unedig. Ers 1892, roedd y cyhoeddiad gwrth-semitig "La Libre Parole" wedi argraffu cyfraniadau difenwol "Les Juifs dans l'Armée" ("Yr Iddewon yn y Fyddin"). Mewn ymateb i hyn, heriodd swyddogion Idddewig yn y fyddin, megis André Crémieu-Foa a Armand Mayer, yr awduron i ornest. Collodd Capten Mayer ei fywyd mewn gornest yn erbyn y Marquis de Mores ym Mehefin 1892, gan greu sgandal mawr a osododd drwgdeimlad a gosod y sefyllfa cyn Achos Dreyfus. Roedd y Gweinidog Rhyfel Freycinet wedi ymyrryd yn y Chambre des Députés gan ddweud: "Boneddigion, yn y Fyddin, nid ydym yn cydnabod Iddewon, Protestaniaid na Chatholigon, rydym ond yn cydnabod swyddogion Ffrengig." Ond yn ddiweddarach, cafodd Iddewon Ffrengig yn gyffredinol eu cyfeirio atynt fel petaent yn "genedl o fewn cenedl", gan yr hanesydd George L. Mosse.[1]

[golygu] Nodiadau

  1. Mae'r term yn ôl ddyddio dechrau'r achos.

[golygu] Ffynonellau

  1. George L. Mosse, Toward the Final Solution: A History of European Racism, (Efrog Newydd: Harper and Row, 1978), 150.
Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill