Tŵr Eiffel
Oddi ar Wicipedia
Tŵr mawr haearn yng nghanol Paris yw'r Tŵr Eiffel (Ffrangeg tour Eiffel /tuʀ ɛfɛl/). Saif ar y Champs de Mars ar lan yr Afon Seine. Cwblhawyd y tŵr yn 1889 yn ôl dyluniad gan y peirianydd Gustave Eiffel. Pan gafodd ei adeiladu, Tŵr Eiffel oedd y stwythur uchaf yn y byd. Arhosodd felly tan 1930, pan adeiladwyd Adeilad Chrysler yn Efrog Newydd. Mae'n enwog heddiw fel delwedd symbolaidd o Baris ac o Ffrainc yn rhyngwladol.