Hen Lyfrgell Carnegie, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
yr Hen Lyfrgell
Mathllyfrgell Carnegie, llyfrgell gyhoeddus Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ionawr 1906 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam
SirWrecsam
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr84 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.047014°N 2.993582°W Edit this on Wikidata
Cod postLL13 8AZ Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Adeilad hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw hen Lyfrgell Carnegie. Tan yn ddiweddar roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae'r hen lyfrgell yn sefyll ar ochr ogleddol Sgwâr y Frenhines, yng nghanol Wrecsam, yn gyfagos i Neuadd y Dref a'r Llwyn Isaf, ar y ffin rhwng craidd masnachol y ddinas â'r ganolfan ddinesig.

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y llyfrgell yn 1906/07 diolch i grant o £4,300 o'r dyngarwr Albanaidd Andrew Carnegie. Roedd Llyfrgell Wrecsam yn un o gannoedd o lyfrgelloedd ym Mhrydain wedi'u hariannu gan Carnegie.[1] Trefnwyd cystadleuaeth i ddewis pensaer i ddarlunio'r llyfrgell. Cyflwynodd mwy na 100 pensaer cynlluniau a chafodd y gystadleuaeth ei ennill gan Vernon Hodge o Lundain.[1] Agorwyd y llyfrgell yn swyddogol ar 15 Chwefror 1907 gan Syr Foster Cunliffe o Neuadd Acton.[2] Yn 1972, symudodd Llyfrgell Wrecsam o'r adeilad ar Sgwâr y Frenhines i adeilad newydd oddi ar Ffordd Rhosddu yn y ganolfan ddinesig. [3]

Ers y saithdegau, mae'r adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd gan y Cyngor. Yn 2020, cyhoeddodd y Cyngor ei fod yn bwriadu gwerthu'r adeilad.[2]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r hen lyfrgell yn adeilad dau lawr, gyda llawr gwaelod o faen nadd a brics coch ar ffasâd y llawr cyntaf.[4] Codwyd yr adeilad yn enwedig o ddeunyddiau lleol – maen o chwarel Cefn Mawr a brics coch Rhiwabon.

Yr hen lyfrgell yw'r unig adeilad hanesyddol sy'n dal yn sefyll yn Sgwâr y Frenhines.  

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Wales – The Carnegie Legacy in England and Wales". carnegielegacyinengland.wordpress.com. 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2022.
  2. 2.0 2.1 "Historic Old Library building on Queen's Square to be sold off by Wrexham Council". Wrexham.com. 3 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2022.
  3. "Wrexham Carnival of Words". Facebook. 9 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2022.
  4. "Old Library, Rhosddu, Wrexham". Cadw. Cyrchwyd 24 Chwefror 2023.