Heidi
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y nofel yw hon. Gweler hefyd Heidi (gwahaniaethu).
Nofel Almaeneg am ddigwyddiadau ym mywyd geneth ifanc sy'n byw yng ngofal ei thaid yn Alpau'r Swistir yw Heidi (teitl llawn gwreiddiol: Heidis Lehr- und Wanderjahre "Blynyddoedd Crwydro a Dysgu Heidi"). Ysgrifenwyd y nofel, a gyhoeddwyd yn 1880 ac a ystyrir yn un o glasuron llenyddiaeth plant, gan yr awdures Swisaidd Johanna Spyri. Cafwyd dau olyniant Saesneg gan Charles Titten, a gyfiethiodd y nofel Heidi o'r Almaeneg i'r Saesneg, sef Heidi Grows Up (Heidi yn tyfu i fyny) a Heidi's Children (Plant Heidi).