Hectr
Oddi ar Wicipedia
Mae Hectr neu Hectar ar lafar (symbol:ha) yn Uned Safonol ychwanegol at yr uned SI, a ddefnyddir i fesur arwynebedd. Caiff ei ddiffinio fel 10,000 metr sgwâr, a chaiff ei ddefnyddio fynychaf i fesur tir. Yn 1795, pan gyflwynwyd y system fetrig cafodd yr are ei ddiffinio fel 100 metr sgwâr; maint yr hectr, felly, oedd cant are h.y. "hecto" a+ "are", sef 100 are neu 1/100 km2.
Pan ailwampiwyd y system fetrig yn 1960 drwy gyflwyno System Ryngwladol o Unedau a Unedau ychwanegol at yr Unedau SI, penderfynwyd - yn rhyngwladol - i hepgor yr are[1] a chanolbwyntio ar yr hectr.
Mae'n cyfateb i 2.47105 erw neu acer.