Gwyach Fawr Gopog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwyach Fawr Gopog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Podicipediformes
Teulu: Podicipedidae
Genws: Podiceps
Rhywogaeth: P. cristatus
Enw deuenwol
Podiceps cristatus
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Wyach Fawr Gopog, Podiceps cristatus, yn aelod o deulu'r Podicipedidae, y gwyachod.

Mae'n un o'r gwyachod mwyaf cyffredin, ac yn nythu ar draws Ewrop ac Asia yn unrhyw le lle mae llynyoedd gyda thipyn o dyfiant arnynt. Yn y rhannau oeraf mae'n symud tua'r de neu'r gorllewin yn y gaeaf, ond fel arall nid yw'n aderyn mudol. Mae'n casglu ar lynnoedd mawr neu ar rannau cysgodol o'r arfordir yn aml yn y gaeaf.

Mae tua 46-51 cm o hyd, a 59-73 cm ar draws yr adenydd. Pysgod bach yw ei fwyd fel rheol, ac mae'n medru nofio o dan y dŵr i'w dal. Oherwydd bod y coesau wedi eu gosod ymhell yn ôl ar y corff, ni all gerdded yn hawdd ar y tir.

Yn y tymor nythu, gellir gweld yr arddangosfa baru, lle mae'r ceiliog a'r iâr yn wynebu'i gilydd ac yn gwneud ystumiau gyda'u gyddfau, yn hanner codi o'r dŵr ac weithiau'n cynnig darn o blanhigyn i'w gilydd. Yn nes ymlaen, gellir gweld cyw, neu ddau gyw, yn cael eu cario ar gefn un o'r rhieni wrth iddynt nofio ar wyneb y dŵr.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif yr oedd yr Wyach Fawr Gopog wedi mynd yn aderyn prin iawn ym Mhrydain oherwydd ei bod yn cael ei hela, er mwyn defnyddio plu ei phen i addurno hetiau merched. I amddiffyn y rhywogaeth yma y sefydlwyd yr RSPB cyntaf. Gydag amddiffyniad cyfreithiol, mae niferoedd yr Wyach wedi cynyddu yn sylweddol iawn. Yng Nghymru gellir gweld yr Wyach Fawr Gopog yn nythu ar bron unrhyw lyn o faint gweddol, ac yn yr hydref neu'r gwanwyn mae dros 300 ohonynt yn heidio i Afon Menai ar adegau.