Gwrthfarddoniaeth

Oddi ar Wicipedia
Gwrthfarddoniaeth
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf Edit this on Wikidata

Mudiad barddoniaeth a sefydlwyd gan y bardd Tsileaidd Nicanor Parra yng nghanol yr 20g yw gwrthfarddoniaeth (Sbaeneg: antipoesía). Mae beirniaid yn anghytuno sut i'w diffinio'n union, ond fel rheol dywed bod gwrthfarddoniaeth yn meddu ar lais gwrtharwrol sy'n cyfleu profiadau cyffredin a hynny drwy gyfrwng ieithwedd gyffredin, sy'n rhoi'r gorau i rethreg aruchel ac elfennau'r arddunol.[1]

Sonir am syniadau eiconoclastig tebyg gan feirdd yr avant-garde yn llên America Ladin yn nechrau'r 20g. Arloesodd Parra yr hyn a elwir wrthfarddoniaeth drwy wrthod hen dechnegau ac ieithwedd flodeuog y beirdd traddodiadol, a chreu ffurf ddigrif a chyfwynebol a oedd yn chwyldroadol ym marddoniaeth America Ladin. Yn ei gerddi, defnyddiodd iaith y stryd, arddull di-lol, a golygwedd lem wrth ymdrin â themâu oedd yn berthnasol i weithwyr, myfyrwyr, cardotwyr, a dihirod. Gwelir ambell nodwedd o wrthfarddoniaeth yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth Cancionero sin nombre (1937), er i Parra ymwrthod â'r llyfr hwnnw yn ddiweddarach. Mae'n debyg ei gyfrol bwysicaf oedd Poemas y antipoemas (1954), ei ymgais i wneud barddoniaeth yn ddealladwy i'r werin.[2] Dylanwadodd gwrthfarddoniaeth Parra ar feirdd mewn amryw iaith ar draws y byd, gan gynnwys ei gydwladwr Pablo Neruda, yr offeiriad a bardd Saesneg Thomas Merton, a rhai o genhedlaeth y Bitniciaid megis Allen Ginsberg a Lawrence Ferlinghetti.

Mae gwrthfarddoniaeth yn rhagflaenu'r farddoniaeth ymddiddanol (poesía conversacional) a oedd yn boblogaidd yn America Ladin yn y 1960au.[1]

Cyhoeddir y cyfnodolyn dwyieithog, yn Saesneg a Sbaeneg, Journal of Antipoetry Studies / Revista de Estudios Antipoéticos gan brifysgolion Caerdydd a Granada i hyrwyddo ac astudio gwrthfarddoniaeth Nicanor Parra.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Mike Gonzalez, "Antipoetry" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 23.
  2. (Saesneg) Nicanor Parra. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Mai 2019.
  3. "Journal of Antipoetry Studies / Revista de Estudios Antipoéticos Archifwyd 2021-01-15 yn y Peiriant Wayback.", Prifysgol Caerdydd. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Edith Grossman, The Antipoetry of Nicanor Parra (Efrog Newydd: New York University Press, 1975).