Thomas Merton

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas Merton

Americanwr o dras gymysg a ddaeth yn gomiwnydd, yna'n Babydd, wedyn yn fynach Trappydd, ac yn olaf yn Fwdhydd Zen oedd Thomas Merton (31 Ionawr 1915 - 1968).

Ganed Thomas Merton yn Ffrainc ar 31 Ionawr 1915, yn nhref Prades (Pyrénées-Orientales). Gŵr o Seland Newydd oedd ei dad ac Americanes o dras Seisnig oedd ei fam.

Mae'n oleuol hyd synedigaeth i siarad â Bwdhydd Zen o Japan a darganfod fod gen ti fwy yn gyffredin gydag ef na chyda dy gydwladwyr dy hun sydd heb lawer iawn o ddiddordeb mewn crefydd, neu sydd ddim ond yn ymddiddori mewn arferion allanol crefydd.[1]

Mewn gwirionedd doedd Thomas Merton byth yn feudwy. Roedd ganddo gyfeillion ar hyd a lled y byd - Bwdhyddion o Fiet Nam, mynachod Hindŵ, Meistri Zen o Japan, cyfrinwyr Swffi Mwslemaidd, athrawon crefydd a chyfriniaeth o Brifysgol Caersalem, athronwyr Ffrengig, celfyddwyr a beirdd o Ewrop, De America a'r Unol Daleithiau, ysgolheigion Arabaidd, cymdeithasegwyr Mecsicanaidd, ac yn y blaen. Ysgrifennai'r rhain ato yn rheolaidd gan ymddangos wrth ei ddrws ar ôl cerdded miloedd o filltiroedd i'w weld. Er fod profiad a safwbynt gwahanol gan gyfrinwyr Cristnogol, Bwdhyddion Zen, Mwslemiaid Swffi, dedlir y dengys digwyddiadau o'r fath eu bod yn gallu croesi ffiniau archddyfarniadau, trosgynnu dogma diwinyddiaeth, ac ennill y gallu i weld Duw trwy fyw, caru a bod, a chanfod Duw ym mhopeth.

Llyfrau Thomas Merton[golygu]

Plac er cof am Merton yn Louisville, UDA

Detholiad:

  • Mystics and Zen Masters
  • Zen and the Birds of Appetite

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Thomas Merton, Mystics and Zen Masters, t. 209.