Gwenan Edwards

Oddi ar Wicipedia
Gwenan Edwards
GanwydBangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • National Film and Television School Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Newyddiadurwr, cyflwynydd teledu a cherddor yw Gwenan Edwards.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd ym Mangor, Gwynedd, a fe'i haddysgwyd yn Ysgol Friars. Fe'i hyfforddwyd fel cerddor clasurol, ac mae'n canu'r piano a'r ffliwt. Mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Fe hyfforddwyd Gwenan fel newyddiadurwr print gyda Surrey and South London Newspapers, ac ar ôl swyddi gyda radio rhanbarthol, fe ymddangosodd ar y teledu am y tro cyntaf yn cyflwyno Wales at Six ar ITV Wales yn 1990.

Yna fe ymunodd â'r BBC yn cyd-angori'r rhaglen newyddion rhanbarthol, Newsroom South East. Yn 2000, fe ymunodd â sianel BBC News [2] ac mae wedi cyflwyno ar BBC World News hefyd. Mae wedi gohebu o Affrica, India, y Dwyrain Canol, yr UDA a llawer o Ewrop. Ar ôl cyflwyno rhaglen deithio'r sianel, Gate 24 – (ail-enwyd i FastTrack yn ddiweddarach), fe gyflwynodd a gohebodd Gwenan ar gyfer rhaglenni defnyddwyr ar ITV a BBC, yn cynnwys Watchdog.

Yn 2006, cwblhaodd gwrs rhaglenni dogfen yn y National Film and Television School, (NFTS) ac fe aeth ymlaen i wneud ffilmiau byrion, gan gynnwys rhai ar gyfer y rhaglen deithio wythnosol, FastTrack ar gyfer BBC World News. Mae hi yn aelod gweithgar o BAFTA ac ar hyn o bryd yn cymryd rhan yn ei Rhaglen Mentora Ieuenctid mewn partneriaeth a'r Media Trust.

Fel cerddor wedi ei hyfforddi yn glasurol, mae Gwenan wedi cyflwyno 3 cyfres o'r Proms ar BBC Two[3] a chystadleuaeth Canwr y Byd, Caerdydd. Yn ddiweddar fe wnaeth ffilm gyda'r canwr soddgrwth, Julian Lloyd Webber.[4]

Mae wedi gwneud nifer o ffilmiau byrion ar gyfer y BBC, yn cynnwys un yn Armenia yn Ne y Cawcasws, un arall gyda côr merched o Dde Affrica, Ysgol Uwchradd i Ferched, Pretoria, a ymwelodd â Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.[5] Yn ddiweddar, mae wedi cynhyrchu ffilm ar gyfer BBC World News ar ynysoedd São Tomé a Príncipe, oddi ar arfordir gorllewin Affrica (2010).[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Knight Ayton Management – Representing Television And Radio Presenters, Conference Speakers, Facilitators And Moderators – Gwenan Edwards". Knightayton.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-19. Cyrchwyd 2011-02-11.
  2. "Gwenan Edwards video". YouTube. Cyrchwyd 2011-02-11.
  3. "Gwenan Edwards BBC Proms". YouTube. Cyrchwyd 2011-02-11.
  4. "BBC Media Player". Bbc.co.uk. Cyrchwyd 2011-02-11.[dolen marw]
  5. "fast:track in Wales". BBC News. 24 Gorffennaf 2009. Cyrchwyd 2010-05-04.
  6. "African island paradise attracts attention". BBC News. 31 August 2010.