Gwaith y meddyg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"Y Meddyg" gan Luke Fildes

Gwaith y meddyg ydy gofalu a gwella ei gleifion drwy astudio ei bwnc, deiagnosio problemau'r claf ac yn trin yr anaf neu'r afiechyd. I'r perwyl hwn, mae'r meddyg yn astudio anatomi, ffisioleg, afiechydon a'r driniaeth angenrheidiol h.y. y gwyddoniaethau meddygol.

Benthyciad o'r Lladin "medicus" syddyma yn ôl llawer, er bod rhai yn awgrymu mai o'r gair "medd" (a holl briodweddau meddygol mêl y daw'r gair. Fe'i sgwennwyd gyntaf yn y Gymraeg yn y 13eg ganrif yn Llyfr Du Caerfyrddin. Ffisigwr yw'r gair arall amdano: gair Lladin am "natur" neu "naturiol".

Mae dau goleg yng Nghymru'n cynnig cyrsiau i fod yn feddyg: Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. Maent yn para am oddeutu 6 mlynedd.

Gweler hefyd[golygu]