Claf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Meddyg yn mesur pwysedd gwaed claf.

Person sy'n derbyn sylw, gofal, neu driniaeth feddygol yw claf.

Cleifion mewnol ac allanol[golygu]

Claf a gyfeirir gan weithiwr iechyd proffesiynol, megis meddyg neu ddeintydd, i weld ymgynghorydd yn yr ysbyty am farn arbenigol yw claf allanol. Mae claf mewnol ar y llaw arall yn aros yn yr ysbyty am gyfnod am brofion neu am lawdriniaeth. Mae angen gwely ar glaf dydd (neu achos dydd) am brofion neu am lawdriniaeth, ond nid yw claf dydd yn aros yn yr ysbyty dros nos fel cleifion mewnol arferol.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Ysbytai: Cael eich derbyn i'r ysbyty. Directgov. Adalwyd ar 13 Hydref, 2009.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am claf
yn Wiciadur.