Grugiar ddu

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Grugiar Ddu)
Grugiar ddu
Iâr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Galliformes
Teulu: Tetraonidae
Genws: Tetrao
Rhywogaeth: T. tetrix
Enw deuenwol
Tetrao tetrix
Linnaeus, 1758
Cyfystyron

Lyrurus tetrix

Mae'r Rugiar ddu (Tetrao tetrix) yn aelod o deulu'r grugieir y Tetraonidae.

Mae'r Rugiar ddu yn nythu ar draws gogledd Ewrop ac Asia, fel rheol ar dir agored, yn enwedig rhosdir, ond gyda rhai coed, neu ar ymylon coedwigoedd. Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd; mae'n aderyn mawr, rhwng 49 a 55 cm o hyd a'i blu yn ddu i gyd heblaw am ddarn coch uwchben y llygaid a llinell wen ar yr adenydd. Mae'r iâr yn llai, 40 hyd 45 cm o hyd ac yn llwydfrown, ac felly'n anoddach eu gwahaniaethu oddi wrth y Rugiar er enghraifft.

Yn y gwanwyn gellir gweld nifer o geiliogod yn eu dangos eu hunain i'r ieir mewn lleoedd traddodiadol, yr hyn a elwir yn lek. Gellir gweld hyn gyda'r wawr ac mae cryn nifer o bobl weithiau dod i weld y ceiliogod yn cerdded o gwmpas ac yn galw. Yng Nghymru mae un safle adnabyddus ar y ffordd gefn rhwng Llangollen a'r Mwynglawdd.

Mae niferoedd y Rugiar ddu wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Mae Cymru yn rhywfaint o eithriad i hyn, oherwydd yn dilyn gostyngiad sylweddol iawn hyd ddiwedd y 1990au mae gwaith gan yr RSPB i greu cynefin addas i'r rhywogaeth yma wedi arwain at gynnydd yn ei nifer. Er hynny mae'n parhau yn aderyn prin.

Sain[golygu | golygu cod]

Ceiliogod yn cadw sŵn
Ceiliogod
Gweld y ffeil
Lyrurus tetrix tetrix

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Cynnal Cadoedd:
Adnabyddir campau carwriaethol y Rugiar ddu yn y Saesneg fel lek. Diddorol yw nodi bod y llinellau canlynol i'w cael mewn cywydd canoloesol a briodolwyd i Dafydd ap Gwilym. Yn ôl Dr. Howard Williams[angen ffynhonnell], yn un o'r cerddi llatai, mae'r bardd yn annog 'Y ceiliog dewr â'r clog du' i fynd a neges i'w gariad ac yn coroni ei ddarlun o'r aderyn a'i ymddygiad fel hyn:

Dy waith yw dwywaith bob dydd
Er eu mwyn, ieir y mynydd,
Yn ael coed cynnal cadoedd
A rhif gwyr, tra rhyfyg oedd.

Yn amlwg, nid pobl ein hoes ni yw'r cyntaf i wirioni ar y ’’lek’’![1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mae'r holl gerdd (gyda nodiadau a diweddariad i Gymraeg Modern) ar gael ar y wefan www.dafyddapgwilym.net (Rhif 162).