Gray's Anatomy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun o argraffiad 1918 o Gray's Anatomy

Llyfr sy'n ymwneud ag anatomeg yw Gray's Anatomy: Descriptive and Surgical in the United Kingdom, neu Gray's Anatomy fel adnabyddir yn gyffredin, a gyhoeddwyd yn gyntaf ym 1858. Mae'n llyfr clasurol a phwysig a wnaeth argraff fawr ar y byd meddygol. Blwyddyn ar ôl ei gyhoeddi yng Ngwledydd Prydain, cafodd Gray's Anatomy ei gyhoeddi yn yr Unol Daleithiau. Wrth astudio afiechydon heintus, daliodd y frech wen oddi wrth ei nai a oedd ar ei wely angau a bu farw ychydig wedi cyhoeddi'r ailargraffiad ym 1860 yn 34 oed. Daliwyd ati gyda'r gwaith, fodd bynnag, gyda llawer o'i gydweithwyr yn torchi llewys. Yn 2008 fe gyhoeddwyd y 40fed rhifyn o dan olygyddiaeth Susan Standring.