Graham T. Allison

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwyddonydd gwleidyddol o Americanwr yw Graham Tillett Allison, Jr. (ganwyd 23 Mawrth 1940), sy'n enwocaf am ei gyfraniad at ddadansoddiad biwrocrataidd gwneud penderfyniadau, yn enwedig yn ystod adegau argyfwng, yn y 1960au a'r 1970au. Ymhlith ei weithiau yw Essence of Decision: Explaining the Cuban Missile Crisis (1971), dadansoddiad o benderfyniadau yn ystod argyfwng taflegrau Ciwba a gafodd cryn ddylanwad ar ddamcaniaeth penderfyniadau o fewn cysylltiadau rhyngwladol, a Remaking Foreign Policy: The Organizational Connection (1976), llyfr a gydysgrifenwyd â Peter Szanton a gafodd effaith ar bolisi tramor gweinyddiaeth yr Arlywydd Jimmy Carter. Ers y 1970au mae Allison wedi bod yn ddadansoddwr blaenllaw ym meysydd diogelwch cenedlaethol a pholisi amddiffyn yr Unol Daleithiau, gyda sylw arbennig ar arfau niwclear a therfysgaeth. Mae'n athro yn Ysgol Lywodraeth John F. Kennedy ym Mhrifysgol Harvard, ac roedd yn aelod o'r Comisiwn ar Atal Amlhau Arfau Dinistriol a Therfysgaeth.

User-phd.svg Eginyn erthygl sydd uchod am academydd neu ysgolhaig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.