Gorynys Kamchatka
Oddi ar Wicipedia
Gorynys ar arfordir dwyreiniol Rwsia yw Gorynys Kamchatka (Rwseg: Камчатка). Saif rhwng Môr Ochotsk yn y gorllewin a Môr Bering yn y dwyrain. Yn weinyddol, mae'n rhan o dalaith Dwyrain Pell Rwsia ac mae ers 2007 wedi bod yn rhan o kraj Kamchatka, sydd hefyd yn cynnwys Ynysoedd Komandorski ac Ynys Karaginski
Mae arwynebedd y penrhyn tua 472.300 km² (ychydig yn fwy na Sweden), ac yn 1250 km o hyd a 450 km o led yn y man lletaf. Yn ddaearegol, mae'n ardal ieuanc iawn, a cheir tua 160 o losgfynyddoedd yma. Cyhoeddwyd Llosgfynyddoedd Kamchatka yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2001.
Nodweddir yr orynys gan amrywiaeth fawr o blanhigion, adar ac anifeiliaid. Nid yw'r boblogaeth yn fawr, gyda'r nifer mwyaf yn ardal Bae Avats yn y de-ddwyrain.