Ynysoedd Komandorski

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad YnysoeddKomandorski

Ynysoedd ym Môr Bering oddi ar arfordir dwyreiniol Rwsia yw Ynysoedd Komandorski (Rwseg: Командорские острова, Komandorskieje ostrova).

Saif yr ynysoedd i'r dwyrain o Orynys Kamchatka. Y ddwy brif ynys yw Ynys Bering ac Ynys Medny, gyda dwy ynys lai. Nid yw'r boblogaeth yn fawr; y pentref mwyaf yw Nikolskoje ar Ynys Bering, gyda phoblogaeth o tua 800. Rhoddwyd yr enw i'r ynysoedd gan y fforiwr Danaidd Vitus Bering yn 1741.