Gorsaf reilffordd Parcffordd Maes Awyr Southampton

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Parcffordd Maes Awyr Southampton
Mathgorsaf reilffordd, gorsaf reilffordd maes awyr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSouthampton Airport Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1966, 1929 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEastleigh Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.9503°N 1.3634°W Edit this on Wikidata
Cod OSSU448170 Edit this on Wikidata
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Côd yr orsafSOA Edit this on Wikidata
Rheolir ganSouth Western Railway Edit this on Wikidata
Map

Mae gorsaf reilffordd Parcffordd Maes Awyr Southampton (Saesneg: Southampton Airport Parkway) yn orsaf reilffordd sydd yn gwasanaethu Maes Awyr Southampton yn nhref Eastleigh, Hampshire, Lloegr. Mae ar Brif Linell y De Orllewin o Waterloo Llundain.

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorodd yr orsaf ar 30 Hydref 1929 fel Atlantic Park Hostel Halt. Fodd bynnag, caeodd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Ar 1 Ebrill 1966, cafodd ei ailagor fel Southampton Airport gan British Rail.

Gwasanaethau[golygu | golygu cod]

Gwasanaethir yr orsaf gan South Western Railway, Southern, CrossCountry a Great Western Railway. I'r dwyrain, mae gan yr orsaf drenau uniongyrchol i Waterloo Llundain a Brighton. I'r gorllewin, mae gan yr orsaf drenau uniongyrchol i Bournemouth, Weymouth, Westbury a Chaersallog. I'r gogledd, mae gan yr orsaf drenau uniongyrchol i Newcastle, New Street Birmingham a Fanceinion Piccadilly. I'r de, mae gan yr orsaf drenau uniongyrchol i Romsey a Harbwr Portsmouth.

Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.