Gorsaf Waterloo Llundain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Waterloo National Rail logo.svg Underground no-text.svg
Waterloo station main entrance.JPG
Lleoliad
Lleoliad Lambeth
Awdurdod lleol Bwrdeistref Lambeth
Gweithrediadau
Côd gorsaf WAT
Rheolir gan Network Rail
Nifer o blatfformau 19
Cyraeddiadau/gwyriadau fyw a gwybodaeth orsaf
gan National Rail Enquiries
Defnydd teithwyr blynyddol
2009-10 Red Arrow Down.svg 86,397 miliwn
2010-11 Green Arrow Up.svg 91,750 miliwn

Terfynfa reilffordd fawr yng nghanol Llundain yw Gorsaf Waterloo Llundain. Mae wedi'i lleoli i'r de o Afon Tafwys ger Pont Waterloo, mae'r orsaf yn gwasanaethu De Lloegr, De-Orllewin Lloegr a gorsafoedd maestrefol Gorllewin Llundain.

Gorsaf Waterloo Llundain yw gorsaf drenau prysuraf y Deyrnas Unedig o ran nifer y teithwyr ac yn un o orsafoedd trenau prysuraf Ewrop, gydag 88 miliwn yn teithio drwyddi yn ystod blwyddyn ariannol 2008-09.[1]. Mae'r gwir nifer o deithwyr fodd bynnag yn debygol o fod yn llawer uwch na'r ffigwr hwn, gan nad yw'n cynnwys teithwyr na brynodd docyn na theithwyr y London Underground. Gorsaf Waterloo Llundain yw gorsaf mwyaf Prydain o ran nifer o blatfformau ac o ran arwynebedd llawr. Gorsaf drenau prysuraf o ran nifer y trenau yw Gorsaf Clapham Junction, a saif bedair milltir i lawr y lein o Orsaf Waterloo Llundain.

Mae'r trefi sydd â gwasanaethau i Waterloo yn cynnwys y canlynol (rhestr anghyflawn):

Lleolwyd y gan "Waterloo Sunset" gan y Kinks yng ngorsaf Waterloo.

Mae gorsaf Waterloo hefyd ar rwydwaith y London Underground, sy'n cysylltu gyda'r orsaf rheilffordd genedlaethol.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Clinnick, Richard. "Waterloo retains its crown as Britain's busiest railway station", Rail, Peterborough, 21 Ebrill 2010.