Google Translate
Ciplun o Google Translate yn gweithredu ar Firefox yn Gymraeg |
|
| URL | translate.google.com |
|---|---|
| Math o wefan | Peiriant cyfieithu |
| Cofrestru | Na |
| Perchennog | |
| Crëwyd gan | |
| Statws cyfredol | Gweithredol |
Gwasanaeth cyfieithu sy'n seiliedig ar ystadegau a ddarperir gan Google Inc. i gyfieithu testun, dogfen, neu wefan i iaith arall ydyw Google Translate. Mae ar gael yn rhad ac am ddim.
Cyflwynwyd y gwasanaeth yn 2007. Cyn hynny, yr oedd Google yn defnyddio peiriant cyfieithu a oedd yn seiliedig ar SYSTRAN.[1] Yr oedd technoleg SYSTRAN hefyd yn seiliedig ar wasanaethau cyfieithu eraill, megis Babel Fish, AOL, ac Yahoo.
Y Gymraeg [golygu]
Gan fod peiriannau cyfieithu yn dibynnu ar gronfa o eirfa a gedwir mewn cronfa ddata, gall cyfieithiadau o un iaith i'r llall fod yn amheus iawn, yn enwedig gydag ieithoedd lle bo newidiadau i gystrawennau, geiriau, a gramadeg (megis trefn ansoddeiriau-enwau a threigladau a geir mewn ieithoedd Celtaidd). Y mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystyried Google Translate, a'r fath adnoddau, i fod yn "... adnoddau defnyddiol i gyfieithwyr proffesiynol..." a bod y Bwrdd "...wrthi'n paratoi cyngor i gyrff cyhoeddus [i ddweud] y nad ydyw'n dderbyniol i ddibynnu'n llwyr ar y fath feddalwedd i gyflawni gofynion Cynlluniau'r Iaith Gymraeg."[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Google Translate Drops Systran For Home Brewed Translation 23/12/2007, Barry Schwartz, searchengineland.com
- ↑ Meeting of the Welsh Language Board's Translation Forum (en) , Nodyn:DyddiadFformat.
Dolenni allanol [golygu]
- (Cymraeg) Google Translate yn Gymraeg