Goldie Hawn
Mae Goldie Jean Hawn (ganed 21 Tachwedd, 1945) yn actores, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Mae'n fwyaf adnabyddus am actio mewn ffilmiau comedi poblogaidd yn ystod y 1960au, 1970au, 1980au a'r 1990au.
Ei Bywyd Cynnar [golygu]
Fe'i ganwyd yn Washington, D.C., yn ferch i Laura (née Steinhoff), perchennog siop emwaith / ysgol ddawns, ac Edward Rutledge Hawn, cerddor mewn band a chwaraeai mewn digwyddiadau mawrion yn Washington. Cafodd ei henwi ar ôl modryb ei mam. Mae ganddi chwaer, Patricia; a brawd, Edward, a fu farw cyn ei genedigaeth. Ar ochr ei thad, mae Hawn yn ddisgynnydd uniongyrchol i Edward Rutledge, un o arwyddwyr Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Magwyd Hawn ym Mharc Takoma, Maryland. Roedd ei thad yn Bresbyteraidd a'i mam yn Iddewes, yn ferch i fewnfudwyr o Hwngari; magwyd Hawn fel Iddewes.
Dechreuodd Hawn wersi ballet a dawnsio tap pan oedd yn dair oed, a dawnsiodd yng nghorws cynhyrchiad Ballet Russe de Monte Carlo o "The Nutcracker" ym 1955. Perfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf fel actores ym 1961, gan chwarae rhan Juliet yng nghyrchiad Gŵyl Shakesperaidd Virginia o Romeo a Juliet. Erbyn 1964, roedd yn rhedeg a chyfarwyddo ysgol ballet, wedi iddi adael Prifysgol Americanaidd, lle'r oedd yn astudio Drama. Ym 1964, gwnaeth Hawn ei pherfformiad dawns proffesiynol cyntaf mewn cynhyrchiad o "Can-Can" ym Mhafiliwn Texas yn Ffair y Byd Efrog Newydd. Dechreuodd weithio fel dawnswraig broffesiynol flwyddyn yn ddiweddarach, ac ymddangosodd fel dawnswraig go-go yn Ninas Efrog Newydd.
Ffilmograffiaeth [golygu]
| Blwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau eraill |
|---|---|---|---|
| 1968 | The One and Only, Genuine, Original Family Band | Giggly Girl | Credited as Goldie Jeanne. |
| 1969 | Cactus Flower | Toni Simmons | Gwobr yr Academi - Yr Actores Gefnogol Orau |
| 1970 | There's a Girl in My Soup | Marion | |
| 1971 | $ | Dawn Divine | aka Dollars |
| 1972 | Butterflies Are Free | Jill Tanner | |
| 1974 | The Sugarland Express | Lou Jean Poplin | |
| The Girl from Petrovka | Oktyabrina | ||
| 1975 | Shampoo | Jill | |
| 1976 | The Duchess and the Dirtwater Fox | Amanda Quaid/Duchess Swansbury | |
| 1978 | Foul Play | Gloria Mundy | |
| 1979 | Lovers and Liars | Anita | |
| 1980 | Private Benjamin | Pvt. Judy Benjamin/Goodman | Enwebwyd am Wobr yr Academ - Yr Actores Orau |
| Seems Like Old Times | Glenda Gardenia Parks | ||
| 1982 | Best Friends | Paula McCullen | |
| 1984 | Swing Shift | Kay Walsh | |
| Protocol | Sunny Davis | ||
| 1986 | Wildcats | Molly McGrath | |
| 1987 | Overboard | Joanna Stayton/Annie Proffitt | |
| 1990 | Bird on a Wire | Marianne Graves | |
| 1991 | Deceived | Adrienne Saunders | |
| 1992 | CrissCross | Tracy Cross | |
| HouseSitter | Gwen Phillips | ||
| Death Becomes Her | Helen Sharp | ||
| 1996 | The First Wives Club | Elise Elliot | |
| Everyone Says I Love You | Steffi Dandridge | ||
| 1999 | The Out-of-Towners | Nancy Clark | |
| 2001 | Town & Country | Mona Miller | |
| 2002 | The Banger Sisters | Suzette | |
| 2009 | Ashes To Ashes | Ffilm gyntaf Hawn fel cyfarwyddwr |