Dawnsio go-go

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dawnsiwr go-go)
Dawnswyr go-go mewn bar awyr agored ar draeth Patong, Gwlad Tai

Dawnswyr a gyflogir i ddiddanu cynulleidfaoedd mewn disco ydy dawnswyr go-go.[1] Dechreuodd dawnsio go-go ar ddechrau'r 1960au pan ddechreuodd menywod yn y Peppermint Lounge yn Ninas Efrog Newydd ddringo ar y byrddau a dawnsio i'r twist.[2] Yn ystod y 1960au gwelwyd nifer o glybwyr benywaidd mewn sgertiau mini yn gwisgo'r hyn a alwyd yn ddiweddarach yn bŵtiau go-go i glybiau nos, ac felly penderfynodd hyrwyddwyr clybiau nos canol y 1960au i'w cyflogi i ddarparu adloniant i'r cwsmeriaid.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mish, Frederic C., Editor in Chief Webster's Ninth New Collegiate Dictionary Springfield, Massachuetts, U.S.A.:1984--Merriam-Webster Tudalen 525
  2. Fideo, The Twist (Ffilm gan Ron Mann) 1993